Testun yn unig

Y Manylion

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau yn rhai amser llawn sy’n para 10 wythnos. Byddwch yn gweithio i gwmni lleol ar brosiect sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw. Gall lleoliadau fod mewn unrhyw sector busnes ac unrhyw le yng Nghymru. Gallwn drefnu lleoliadau mwy hyblyg hefyd sy’n cael eu rhannu dros gyfnodau gwyliau gwahanol.

Trefnwn leoliadau i fyfyrwyr ag unrhyw ddisgyblaeth gradd o unrhyw sefydliad, ac o bob oed. Dim ond lleoliadau gwaith yng Nghymru a drefnir gennym.

Cewch dâl o £230 o leiaf yr wythnos tra byddwch ar leoliad.

Sut mae’n gweithio

Cyfnod ffurfiol o brofiad gwaith yw lleoliad gwaith. Byddwch yn gyflogai i’r cwmni sy’n cynnal eich lleoliad tra byddwch yno. I gymryd rhan, bydd angen i chi gofrestru gyda ni. Byddwn yn gwneud ein gorau glas wedyn i ddod o hyd i leoliad addas ar eich cyfer.

Mae llawer o’n cwmnïau lleoliadau yn hoffi cyfweld â myfyrwyr/graddedigion potensial cyn iddynt ddechrau gweithio. Ar ôl cyfweliad llwyddiannus, byddwch yn dechrau gweithio ar brosiect a gytunwyd rhyngoch chi a’ch cwmni lleoliad ymlaen llaw. Dylech ddisgwyl cael cyfnod ymsefydlu ac ymweliad gan eich Trefnydd Lleoliadau yn ystod eich lleoliad, er mwyn monitro cynnydd ac ateb unrhyw gwestiwynau all fod gennych.

Rhoi nod tudalen gyda: