Roedd Ayukebang am gael profiad gwaith o ansawdd i wella'i CV. Ar y pryd roedd yn fyfyriwr trydedd flwyddyn di-brofiad. Trefnodd GO Wales sesiwn blas ar waith 5 diwrnod iddi yn Doyle's Finance Cyf.
Bu cyfnod blas ar waith GO Wales Ayukebang Etah-Akoh gyda Doyle Finance mor llwyddiannus fel y cafodd gynnig lleoliad gyda'r cwmni. Mae'n esbonio:
“Gan fy mod yn fy 3ydd blwyddyn a heb gael profiad gwaith, dechreuais boeni'n ofnadwy!”
“Bues i'n ddigon lwcus i gael fy nghyfeirio at flas ar waith GO Wales, a wnaeth i mi edrych eilwaith ar fy mhroblem. Trefnwyd sesiwn blas ar waith i mi am bum diwrnod gyda Doyle Finance Cyf. Roedd y cwmni hwn yn digwydd bod yn gweithio ar brosiect mawr a gofynnodd y cwmni am gael troi fy nghyfnod blas ar waith yn lleoliad rhan-amser cyflogedig am 10 wythnos!”
“Roedd fy nghyflogwr, Mr Doyle, yn athro ardderchog ac yn ffrind, ac rwyf wedi ennill llawer o sgiliau a fydd yn fanteisiol i mi gydol fy mywyd. Roedd fy mlas ar waith yn Doyle Finance yn berffaith ac ni allwn fod wedi cael gwell.”
“Rwy'n ddiolchgar iawn i GO Wales (tîm Caerdydd) am eu holl gymorth, a byddem yn argymell unrhyw un i ddilyn y cynllun!”
Roedd Doyle's yn elwa o gael unigolyn ar leoliad gwaith oedd â sgiliau ymchwil rhagorol, y gallu i weithio'n hyderus â chleientiaid, a rhywun a allai ddatblygu cysylltiadau gwaith cadarn yn y tîm, gan arwain at lansio'u gwefan newydd yn llwyddiannus.
Rhoi nod tudalen gyda: