Gwasanaeth ymgynghori a marchnata yng Nghaerdydd yw Kleverstuff Cyf; rhoddodd y cwmni gyfle i Laurian Corner, myfyrwraig ar gwrs Astudiaethau Cyfryngau, gael profiad uniongyrchol ym maes Cysylltiadau Cyhoeddus trwy flas ar waith GO Wales.
Mae Laurian wedi dysgu llawer o sgiliau yn ystod ei sesiwn blas ar waith sydd wedi'i chynorthwyo i deimlo'n fwy hyderus wrth chwilio am waith yn y sector Cysylltiadau Cyhoeddus. Bellach mae'n gweithio i'r cwmni un diwrnod yr wythnos.
“Cymerais ran mewn blas ar waith gyda Kleverstuff am 5 diwrnod dros gyfnod o 5 wythnos. Roedd fy ngwaith yn ymwneud â Chysylltiadau Cyhoeddus, a gweithiais ar ddau gynnyrch yn y diwydiant harddwch/cosmetig - AcneStar a Nailoid Results.”
“Roedd fy nghyfrifoldebau'n cynnwys llunio datganiad i'r wasg ac yna ei ddanfon i salonau a golygyddion harddwch cylchgronau a phapurau newydd cenedlaethol a lleol i ddefnyddwyr. Wedi i'r post gael ei anfon, roedd rhaid i fi siarad â rheolwyr y salonau a'r golygyddion harddwch er mwyn cael eu barn am y cynhyrchion ac i weld a fyddai'r salonau eisiau prynu unedau o AcneStar a golygyddion harddwch yn fodlon rhoi sylw i'r cynhyrchion.”
“Cefais hyfforddiant ymarferol proffesiynol a chynhwysfawr yn ogystal â chroeso cynnes gan y cwmni. O ganlyniad i hyn, rwy'n parhau i weithio i'r cwmni am un diwrnod yr wythnos ac rwy'n mwynhau pob munud o'm hamser gyda Kleverstuff Cyf.”
Dywedodd Katrina Evison, Cyfarwyddwr Kleverstuff:
“Mae cydweithio â GO Wales a'i gynllun blas ar waith wedi bod yn llewyrchus iawn i'n cwmni. Mae wedi rhoi'r cyfle i ni brofi graddedigion o fewn maes gwaith arbennig; mae'n rhoi'r cyfle i raddedigion gael blas ar swyddi gwahanol hefyd. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall sut gall eu cryfderau eu harwain at swyddi yn y dyfodol. Rydym yn credu bod y cynllun hwn yn werth chweil i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.”
Rhoi nod tudalen gyda: