Testun yn unig
Pawel yn swyddfeydd Triptych Mehefin 2008

Astudiaethau Achos GO Wales

Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Triptych Marketing
Prosiect
Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ymgeisydd
Pawel Matusz

Nod Blas ar Waith

Roedd Pawel am gael profiad yn y DU i ategu ei astudiaethau a bu gyda Triptych Marketing am wythnos blas ar waith.

Canlyniad Blas ar Waith

“Pan ddechreues i yn Triptych roedden nhw'n wych a dysges i gymaint mor gyflym! Dangoson nhw'r swyddfeydd i mi a gwneud i mi deimlo'n gartrefol o'r diwrnod cyntaf un. Dysges i lawer am dasgau marchnata gan gynnwys:”

  • Gweld sut i lunio datganiad i'r wasg
  • Sut mae strategaethau marchnata'n cael eu ffurfio
  • Mynychu sesiynau trafod syniadau i weld sut oedd syniadau newydd yn cael datblygu'n ymgyrchoedd go iawn
  • Ysgrifennu deunydd ymgyrch bostio ar gyfer asiantaeth gosod eiddo corfforaethol

“Roedd y rhain yn dasgau go iawn gyda chleientiaid go iawn - mewn amgylchedd diogel gyda llawer o gymorth ac arweiniad. Roedd yr awyrgylch yn wych, doedd neb yn feirniadol pan o'n i'n gofyn cwestiynau a gwnes i fwynhau fy amser yno'n fawr. Roedden nhw'n hyblyg o ran oriau ac am gael gwybod pa faes oedd gen i ddiddordeb arbennig ynddo er mwyn gwneud yn siŵr mod i'n gwneud y gorau o'r wythnos yno.”

“Rhoddodd y cyfnod blas ar waith yr hyder i mi gyflwyno ceisiadau ar hap i gwmnïau eraill.”

“Byddwn i'n eich cynghori chi i wneud mwy nag un cyfnod blas ar waith gan y gall helpu i ddatblygu'ch CV a bod o gymorth aruthrol wrth gynllunio'ch gyrfa. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi benderfynu a ydych chi'n credu eich bod am ddatblygu'ch gyrfa gyda'r math hwn o waith - ac mae gwybod beth yw'ch nod o ran gyrfa yn gynnar yn wych gan y gallwch chi gael mwy o brofiad i wella'ch gobeithion maes o law!

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: