Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Cyhoeddi - Y De-orllewin

Sefydliad
Parthian Books
Prosiect
Cyhoeddi
Ymgeisydd
Julie Stocks (Hanes yr Hen Fyd)

Nod Blas am Waith

Croesawodd Parthian Books Julie Stocks fel rhan o'r rhaglen blas ar waith i'w cynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o'r byd cyhoeddi.

Canlyniad Blas am Waith

“Adeg y blas ar waith roedd cwmni Parthian Books wrthi'n lansio ei lyfr diweddaraf, Dial M for Merthyr gan Rachel Trezise. Cefais gyfle i weithio gyda'r tîm cyhoeddusrwydd ar nifer o ddigwyddiadau roedd Parthian wedi'u trefnu i lansio'r llyfr.”

“Cefais gipolwg gwerthfawr ar y diwydiant cyhoeddi, a sylweddolais nad yw'r byd hwnnw yn fêl i gyd. Mae'n golygu llawer o waith caled, ac mae yna fwy o bobl nag a feddyliech chi yn gweithio i gyhoeddi un llyfr. Mae'n gwneud i mi feddwl faint o bobl fu'n gweithio ar y llyfrau Harry Potter!”

“Dwi'n dal heb benderfynu beth hoffwn ni ei wneud gyda'm gyrfa, ond rwy'n gobeithio y bydd fy ngwaith pellach gyda Parthian yn fy helpu i gael gwell syniad gan fod y cwmni am roi gwaith rhyddgyfrannol i mi i chwilio am hawlfraint. Dyma'r maes roedd gen i ddiddordeb ynddo i ddechrau, ond ni chefais gyfle i weithio yn yr adran honno oherwydd prinder amser.”

“Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn a roddodd gipolwg gwirioneddol i mi o'r diwydiant cyhoeddi. Dwi nawr yn gweithio'n rhan-amser mewn siop lyfrau ac yn gweithio'n rhyddgyfrannol i Parthian. Dwi ddim yn siŵr beth fydda i'n ei wneud yn ystod y blynyddoedd nesaf ond dwi wedi ystyried mynd yn ôl i'r brifysgol i wneud gradd Meistr.”

Dominic Williams, y Rheolwr Gyfarwyddwr, sy'n rhoi adroddiad ar y blas ar waith:

“Daeth Julie Stocks a Lindsay Ward atom fel tîm i gael profiad o weithio gyda chwmni cyhoeddi. Maes hawlfraint oedd diddordeb pennaf Julie tra bod Lindsay yn ymddiddori mewn golygu academaidd. Fe wnaethom geisio diwallu anghenion y ddwy fel rhan o'r blas ar waith ond amser byr yn unig oedd ganddyn nhw gyda ni ac roeddem am roi blas o'r busnes cyfan iddyn nhw hefyd.”

“Cafodd Julie lwyddiant mawr yn ei gwaith gyda'r cyfryngau argraffu, gan lwyddo i gael stori wedi'i chyhoeddi gyda'r Cambrian News yn Aberystwyth. Bu hefyd yn helpu ar stondin mewn digwyddiad llenyddol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.”

“Efallai y bydd Julie'n gwneud rhywfaint o waith rhyddgyfrannol i Parthian Books dros y misoedd nesaf yn chwilio am hawlfraint i gerddi ar gyfer Detholiad o Farddoniaeth Ryngwladol.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: