Testun yn unig

Y Manylion...

Pam ddylwn i gael blas ar waith?

Mae blas ar waith yn rhoi cyfle i chi fedru gwneud penderfyniad cytbwys am eich gyrfa. O weld yr hyn sy’n digwydd mewn gwahanol gyrff cewch gyfle i ystyried a ydych chi’n gwneud y penderfyniad iawn o ran eich dyfodol. Does dim byd tebyg i brofiad go iawn ac mae’n syniad da rhoi cynnig ar yrfa neilltuol cyn gwneud ymrwymiad.

Am faint mae sesiwn Blas ar Waith yn para?

Mae sesiynau Blas ar Waith yn hyblyg ac wedi'u teilwra i gyd-fynd â'ch astudiaethau chi a'ch ymrwymiadau eraill, ac i siwtio'r cyflogwr. Maen nhw'n para rhwng diwrnod ac ychydig wythnosau fel arfer.

A gaf i fy nhalu?

Does dim tâl achos yn dechnegol ni fyddwch yn cael eich cyflogi gan y cwmni y byddwch yn ymweld ag ef. Byddwch yn cymryd rhan er mwyn cael blas ar waith ac ennill profiad. Fodd bynnag, gall rhaglen GO Cymru eich helpu chi gyda’r costau teithio.

A allaf gael blas ar waith ar unrhyw adeg o’r flwyddyn?

Gallwch, gall blas ar waith ddigwydd ar unrhyw adeg.

Ym mha gwmnïau allwn i gael fy lleoli?

Unrhyw gwmni bron. Gweithiwn gyda chwmnïau ym mhob sector ym mhob man yng Nghymru. Gweithiwn hefyd gyda chyrff yn y sector cyhoeddus megis cynghorau, ysgolion ac ysbytai.

Rwyf wedi graddio, a gaf i gymryd rhan?

Cewch, wrth gwrs. Anogwn fyfyrwyr i gymryd rhan fel y medrant ennill profiad a gwneud penderfyniad cyn iddynt raddio ond gall graddedigion gymryd rhan hefyd.

Rhoi nod tudalen gyda: