Testun yn unig
Y Diwydiant Awyrofod Ac Amddiffyn

Awyrofod Ac Amddiffyn

Trosolwg Sector Cymru

Mae Awyrofod ac amddiffyn yn ddiwydiannau byd-eang sy'n cael eu harwain gan ychydig o gwmnïau mawr gyda nifer o sefydliadau canolig yn eu hategu. Mae gan y DU yr ail ddiwydiant awyrofod mwyaf yn y byd ac mae'n cynnwys nifer o'r cynhyrchwyr a'r cyflenwyr gorau yn y byd. Mae Awyrofod ac amddiffyn yn darparu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau, gan gynnwys awyrennaeth, cerbydau môr a thir, deunyddiau, personél, dyfeisiau meddygol, electroneg, gwasanaethau cyfathrebu a thechnolegau amgylcheddol. Y D.U. yw'r ail gyflenwr cyfarpar amddiffyn mwyaf yn y byd ac mae'n cyflogi rhai o weithwyr mwyaf medrus y D.U.

Mae Cymru'n ganolfan rhagoriaeth ym maes awyrofod. Yn arbennig, mae gweithgareddau sy'n ymwneud â chynnal, trwsio a gweithrediadau'n cyflogi ymhell dros 20,000 o bobl mewn 150 o gwmnïau. Mae'r cyfleusterau diweddaraf yn cynhyrchu, cyflenwi, cynnal, trwsio ac yn archwilio awyrennau sifil a milwrol o bob cwr o'r byd.

  • Yng Ngogledd Cymru, mae clwstwr cryf o gwmnïau awyrofod byd-eang wedi eu datblygu o amgylch cyfleuster cynhyrchu adenydd Airbus UK. Mae cwmnïau megis Raytheon Aircraft Services Cyf (RASL) a Raytheon Systems Cyf (RSL) yn cael eu cefnogi gan glwstwr cryf o gwmnïau peirianneg awyrofod arbenigol, sy'n cynnwys Qioptiq a Cytec.
  • Mae De Cymru wedi cael ei sefydlu fel lleoliad ar gyfer cwmnïau cynnal, trwsio a gweithrediadau byd-eang. Mae gan British Airways dri chyfleuster yn ne Cymru: BA Maintenance Cardiff (BAMC), BA Interiors Engineering, a BA Avionic Engineering. Mae'r de yn gartref i GE Aviation, NORDAM Europe a Lufthansa hefyd.
  • Bydd canolfan hyfforddi tri gwasanaeth newydd UK MOD yn cael ei leoli yn Sain Tathan yn ne Cymru hefyd. Metrix Consortium yw'r cynigydd a ffefrir ar gyfer Adolygiad Hyfforddi Amddiffyn y DU – contract £10 biliwn dros 25 mlynedd.
  • Yng ngogledd Cymru, mae BAE Systems yn dod yn fwy a mwy amlwg yn RAF y Fali, ac mae gan orllewin Cymru Barc Aberporth – amgylchedd Ewropeaidd newydd ar gyfer datblygu technoleg systemau di-griw (Parc Aberporth yw'r unig faes awyr trwydded sifil yn y DU sydd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer hedfan Cerbydau Awyr Di-griw).
Ffynhonnell: ibwales.com

Rhoi nod tudalen gyda: