Moduron
Proffiliau Cwmnïau
- Calsonic Kansei Europe CCC - Llanelli.
- Dylunio a chynhyrchu systemau gwresogi ac aerdymheru, systemau oeri injans a systemau pibellau gwacáu, gan gynnwys trawsnewydydd catalytig. www.ckeurope.com
- Meritor Heavy Vehicle Braking Systems (UK) Cyf - Cwmbrân.
- Datblygu technolegau allyrru, systemau a chydrannau gyriant cerbydau. www.arvinmeritor.com
- Continental Teves UK Ltd - Glynebwy.
- Arbenigo mewn cymwysiadau diogelwch cerbydau.
- Sogefi Filtration Cyf - Pont-y-clun.
- Mae Sogefi Filtration yn rhan o'r Sogefi Group, busnes byd-eang gyda'i bencadlys yn yr Eidal. Maent yn arbenigo'n bennaf mewn dau gynnyrch: systemau hidlo injan a chaban a chydrannau hongiadau. www.sogefifiltration.com
- TI Group Automotive Systems (Glannau Dyfrdwy) Cyf
- Cyflenwr systemau storio a dosbarthu tanwydd hollol integredig ar gyfer ceir a lorïau. Mae TI yn cyflenwi systemau cario hylif ar gyfer breciau a chymwysiadau gyriant pŵer hefyd. www.tiauto.com
- Trico Cyf - Pont-y-pŵl.
- Datblygu a chynhyrchu systemau ac electroneg sychwyr integredig. www.tricoproducts.com
- TRB Cyf - Llanelwy
- Cyflenwi cynnyrch switsh modurol i gynhyrchwyr cerbydau rheng flaen Ewrop. www.trb-ltd.co.uk
- Kautex Textron CVS Cyf - Hengoed
- Cyflenwr systemau tanwydd plastig, gan gynnwys cydosodiadau tanwydd plastig a metel. Mae Kautex yn cyflenwi systemau golwg clir modurol (glanhau sgrin wynt a lampau mawr), dwythellau chwythfowldio a chronfeydd hylif, a chydrannau eraill megis pibellau oeri a chydrannau acwstig hefyd. www.textron.com
- Northern Automotive Cyf - Y Fenni
- Cynhyrchu ymylon mewnol addurnol.
- Mitsui Components Europe Cyf - Rhydaman
- Sefydlwyd Mitsui Components Europe Cyfyngedig (MCE) ym 1999 er mwyn cynhyrchu mecanweithiau cloi drysau o ansawdd uchel ar gyfer y diwydiant modurol. Mae ei gwsmeriaid haen gyntaf cyfredol yn cynnwys Honda U.K Manufacturing yn Swindon, a Honda yn Nhwrci a Toyota yn y DU, Ffrainc a Thwrci. Mae’r safle yn Rhydaman yn cyflogi dros 200 o weithwyr. www.mitsuicomponents.co.uk
- DT (Automotives) Ltd - Wrecsam
- Cyflenwi dillad rasio, rhannau i alluogi ceir a beiciau modur i deithio ar y ffordd ac mewn cystadlaethau.
Mae gan Gymru dros 200 o gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi moduron. Yn ogystal â hyn, mae 2 cynhyrchydd cerbydau mawr yn cynhyrchu injans ceir yng Nghymru, Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.
- Ford Motor Company Cyf
- Rhan o'r Ford Motor Company yn yr Unol Daleithiau. Mae'r cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynhyrchu injans ar gyfer cerbydau Ford a Jaguar. www.ford.co.uk
- Toyota Motor Manufacturing (UK) Cyf
- Cangen y DU o'r Toyota Motor Corporation, sy'n cynhyrchu injans yng Nglannau Dyfrdwy ar gyfer ei ffatri ceir Toyota yn Derby. www.toyota.co.uk
Mae'r cyflenwyr haen gyntaf ac ail haen yn cynnwys:
- Robert Bosch
- Rhan o Adran Cyfarpar Gwreiddiol Modurol Robert Bosch GMBH. Mae ffatri'r cwmni ym Meisgyn ger Caerdydd yn cynhyrchu eiliaduron compact. www.bosch.com
- TRW Steering Systems Ltd
- Rhan o TRW Inc yr Unol Daleithiau. Mae'r cwmni'n cynhyrchu systemau llywio â llaw a chyda chymorth pŵer a modylau hongiadau yn ei ffatri yng Ngorllewin Morgannwg. www.trw.com
Rhoi nod tudalen gyda: