Biowyddoniaeth
Proffiliau Cwmnïau
- GE Healthcare
- Arbenigo mewn delweddu meddygol a thechnolegau gwybodaeth, diagnosteg feddygol, systemau monitro cleifion, gwella perfformiad, darganfod cyffuriau a thechnolegau cynhyrchu biofferyllol. Mae gan GE safle yng Nghaerdydd sy'n cyflogi 450 o weithwyr.
- Convatec Cyf
- Cynhyrchion a gwasanaethau sy'n ymwneud â chynhyrchion ar gyfer gofal stoma, gofal croen a gofal anafiadau uwch. Wedi ei leoli yng Nglannau Dyfrdwy ac yn cyflogi dros 1000 o weithwyr.
- British Biocell International
- Datblygu, cynhyrchu ac yn cyflenwi adweithyddion diagnostig a gwasanaethau cyswllt gofal o ansawdd uchel i'r farchnad ddiagnostig fyd-eang. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
- Wockhardt
- Cwmni fferyllol a biodechnoleg byd-eang ac yn gyflenwr mawr o gynhyrchion gofal iechyd ledled y byd.
- Huntleigh Diagnostics Cyf
- Cynllunio a chynhyrchu amrywiaeth o ddyfeisiadau ac offer gofal iechyd anymledol a systemau rheoli ar gyfer cymwysiadau meddygol. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
- Norgine
- Datblygu, cynhyrchu ac yn marchnata meddyginiaeth arloesol er lles cleifion a meddygon ledled Ewrop. Wedi ei leoli yn Hengoed.
- Molecular Light Technology Research Cyf
- Gwneud profion diagnostig cyflym a sensitif gan ddefnyddio technolegau molecwlar. Cwmni Gen-Probe Inc. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
- Merck Chemicals Cyf
- Ymwneud â datblygu, cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth eang o adweithyddion ymchwil a ddefnyddir ar gyfer ymchwil gwyddor bywyd.
- Protherics
- Un o'r prif gwmnïau biofferyllol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu, cynhyrchu a marchnata cynhyrchion gofal critigol a chanser. Mae Protherics yn cyflogi dros 140 o bobl yn ei ffatri gynhyrchu yn Llandysul, Ceredigion. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.protherics.com.
- Penn Pharmaceutical Services Cyf
- Cwmni fferyllol integredig sy'n darparu gwasanaethau i'r diwydiant gofal iechyd rhyngwladol. Wedi ei leoli yng Ngwent.
- Simbec Research
- Mae Simbec Research yn sefydliad ymchwil contract sy'n darparu gwasanaethau clinigol, bioddadansoddol a materion rheoleiddio cynhwysfawr ledled y byd i ddiwydiannau fferyllol, biodechnolegol a dyfeisiau meddygol. Wedi ei leoli ym Merthyr Tudful.
Rhoi nod tudalen gyda: