
Mae diwydiant adeiladu Cymru wedi cael cyfnod llewyrchus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gwaith ailddatblygu canol dinasoedd a glannau dŵr Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, sydd wedi costio miliynau o bunnoedd, wedi creu llawer iawn o swyddi. Mae'r prosiectau'n cynnwys datblygiadau tai a fflatiau newydd, canolfannau siopa mawr ac adeiladau eiconig fel Stadiwm y Mileniwm a Chanolfan y Mileniwm.
Heddiw, mae'r diwydiant adeiladu yn darparu swyddi ar gyfer 93,000 o bobl ar draws amrywiaeth eang o grefftau a galwedigaethau. Mae hynny'n cyfateb i tua 8% o holl weithlu Cymru. Cyflogir y rhain gan tua 10,000 o fusnesau gyda 90% ohonynt yn fentrau bach sy'n cyflogi llai na 10 unigolyn. Mae busnesau'n amrywio o weithrediadau peirianneg sifil mawr i fentrau arbenigol bach. Mae gan nifer o'r contractwyr mawr leoliadau parhaol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys contractwyr fel Costain, Westbury a Redrow. Mae'r sector yn cynnwys un o'r cwmnïau sefydledig hynaf yng Nghymru - Watkin Jones o Fangor. Sefydlwyd y busnes teuluol ym 1791 ac mae bellach yn cyflogi 271 o bobl ledled Gogledd Cymru.
Rhoi nod tudalen gyda: