- Ntl/Virgin Media
- Rhan o grŵp Virgin. Mae'r Virgin Media newydd bellach yn cynnig gwasanaethau teledu, band eang, ffôn symudol a ffôn. Mae gan Virgin Media ganolfannau gwasanaeth cwsmeriaid yng Nghaerdydd ac Abertawe.
- HBOS
-
Mae Grŵp HBOS yn darparu bancio manwerthu, busnes a chorfforaethol, a gwasanaethau yswiriant a buddsoddi trwy ei strategaeth aml-frand. Mae brandiau HBOS yn cynnwys Halifax, Bank of Scotland a Birmingham Midshires. HBOS yw darparwr morgeisiau a chynilion mwyaf y DU ac mae'n un o'r prif yswirwyr, gan gyflogi 72,000 o bobl ledled y byd. Mae gan HBOS ganolfan cyswllt ym Mhorth Caerdydd.
- ING Direct
- Wedi sefydlu ei ganolfan alwadau yng nghanol Caerdydd yn 2005 er mwyn delio â'r 700,000 o gwsmeriaid sydd ganddynt gyda chyfrifon cynilo ar-lein. Y Swyddfa yng Nghaerdydd yw ail swyddfa fwyaf y cwmni yn y DU, ac mae'n cyflogi dros 300 o bobl.
- Liberata
- Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan Liberata yn cynnwys gweinyddu refeniw a budd-daliadau, gweinyddu polisïau a hawliadau, Adnoddau Dynol a phrosesu cyflogres a gwasanaethau canolfan cyswllt. Maent yn cefnogi gweinyddiaeth allanol ar gyfer y sectorau cyhoeddus, pensiynau a buddsoddi. Mae prif ganolfan cyswllt Liberata ym Mharc Cleppa, Casnewydd.
- Logica CMG
- Cwmni datrysiadau TG byd-eang yw Logica, sy'n delio â meysydd busnes amrywiol, o ymgynghoriaeth, rheoli mentrau, cyllid a chyfrifeg, Adnoddau Dynol a chyflogres i ddarparu gwasanaethau diogelwch a gwasanaethau allanol. Mae gan Logica ganolfannau cyswllt a swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.
- Laura Ashley
- Un o brif fanwerthwyr y stryd fawr yn y DU, gyda chysylltiadau byd-eang. Mae Laura Ashley yn enw eiconig gyda'i wreiddiau yng Nghymru. Mae ei brif ganolfan gwasanaethau cwsmer yn y Drenewydd, Powys.
- Centrica/Nwy Prydain
-
Mae canolfan gwasanaethau cwsmer Nwy Prydain wedi ei leoli yng nghanol dinas Caerdydd ers 20 mlynedd. Mae'n cyflogi tua 1,700 o bobl, yn derbyn wyth miliwn o alwadau gan gwsmeriaid bob blwyddyn ac yn gwneud dwy filiwn o alwadau allanol. Mae'r ganolfan yn ateb galwadau gan gwsmeriaid Preswyl Nwy Prydain a chwsmeriaid Busnes Nwy Prydain, ac mae ganddo dimau arbenigol, megis y tîm Symud Tŷ a'r tîm Iaith Gymraeg.
- Lloyds TSB
-
Mae gan un o 4 banc mawr y DU bresenoldeb amlwg yng Nghymru ers 15 mlynedd gyda'i ganolfan cyswllt ger Casnewydd. Yn ddiweddar, mae cangen yswiriant Lloyds TSB wedi recriwtio 200 o weithwyr gwasanaethau cwsmer yn ei bencadlys yng Nghasnewydd, gan godi nifer staff y ganolfan alwadau i bron 900. Mae gan Lloyds TSB ganolfannau yng Nghaerdydd a ger Pen-y-bont ar Ogwr hefyd, sy'n cyflogi cyfanswm o 2000 o weithwyr.
- Zurich
- Yn ddarparwr gwasanaethau ariannol ac yswiriant byd-eang, mae Zurich Financial Services Group yn ymwneud â phedwar maes, sef yswiriant, buddsoddiad, diogelu a phensiynau. Mae ei ddarpariaeth gwasanaeth yn cynnwys unigolion a busnesau bach, yn ogystal â chwmnïau rhyngwladol. Lleolir swyddfa Yswiriant Personol Zurich yng Nghaerdydd.
Rhoi nod tudalen gyda: