Testun yn unig
Diwydiannau Creadigol

Diwydiannau Creadigol

Trosolwg Sector Cymru

Animeiddio

Mae gan ddiwydiant animeiddio'r DU weithlu sy'n ymestyn dros nifer o sectorau yn y diwydiant clyweledol. Mae gwaith animeiddio yn ymddangos ar y teledu, mewn ffilmiau hir, mewn hysbysebion, ar wefannau ac mewn gemau cyfrifiadur a fideo.

Ffeithiau Sydyn:

  • Nododd Cyfrifiad 2006 Skillset bod 354 o bobl yn gweithio ym maes animeiddio yng Nghymru (rhai'n gweithio ar liwt eu hunain a gweithwyr cyflogedig).
  • Yn ôl y cyfrifiad, mae tua 31% o'r gweithlu animeiddio'n gweithio ar liwt eu hunain ac mae cyfradd go debyg yn fenywod.
  • Darganfu'r cyfrifiad fod 36% o'r bobl a oedd yn gweithio ym maes animeiddio ar ddiwrnod y cyfrifiad yn siarad Cymraeg, sy'n amlygu rôl y cyfryngau darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg o ran cefnogi'r sector.
  • Mae'r rhan helaeth o'r sector wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac i raddau llai yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, gyda'r cysylltiadau cynyddol gydag amlgyfryngau, efallai bydd mwy a mwy o animeiddwyr yn gweithio mewn gwahanol rannau o'r wlad.
  • Mae rhaglenni animeiddio o Gymru yn cynnwys teitlau fel Sali Mali ac Animated Tales of the World yn ogystal â chynyrchiadau newydd sbon fel Hana's Helpline, sydd wedi ei gynhyrchu'n gyfan gwbl yng Nghymru gan Calon TV.
  • Mae dwy o ffilmiau wedi'u hanimeiddio o Gymru wedi cael eu henwebu am Oscar (Famous Fred a The Canterbury Tales) a chasgliad o wobrau Emmy.

Ffilm

Mae'r diwydiant ffilm yn cyflogi tua 27,000 o bobl ledled y DU, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn cwmnïau cynhyrchu bach ac wedi eu lleoli'n bennaf yn Llundain - mae 95% o bob cynhyrchiad ffilm yn y DU wedi'u lleoli yn Llundain ar hyn o bryd. Caiff y diwydiant yng Nghymru ei reoli gan nifer bychan o gwmnïau cynhyrchu bach a leolir yng Nghaerdydd, ac mae'r mwyafrif o'r rhain yn cynhyrchu deunydd ar gyfer y teledu a'r radio.

Ffeithiau Sydyn:

  • Mae Arolwg Gweithlu Cynhyrchu Ffilm Skillset 2004 yn amcangyfrif bod 10,000 o bobl wedi gweithio ar gynyrchiadau yn y DU yn 2002, ac roedd 7% o'r rhain (neu 720 o bobl) yn gweithio yng Nghymru.
  • Mae rhai cynyrchiadau ffilm diweddar sydd wedi cael eu creu neu eu ffilmio yng Nghymru'n cynnwys Tomb Raider II, King Arthur, The Libertine, Half Light, Hitch Hikers Guide to the Galaxy, Heidi, Daddy's Girl a Big Nothing.
  • Mae'r diwydiant wedi cynhyrchu gweithwyr ffilm talentog hefyd, megis y Cyfarwyddwr Marc Evans sydd wedi cyfarwyddo ffilmiau fel Snowcake, Trauma, My Little Eye, House of America, Beautiful Mistake, ac actorion megis Ioan Gruffydd sydd wedi actio mewn ffilmiau fel 102 Dalmatians, addasiad ITV o The Forsythe Saga, Black Hawk Down, King Arthur (fel Lancelot) ac yn fwy diweddar yn Fantastic Four ac Amazing Grace.
  • Sefydlwyd yr Asiantaeth Ffilm Cymru newydd yng Ngorffennaf 2006. Ei swyddogaeth yw sicrhau bod agweddau economaidd, diwylliannol ac addysgol ffilmiau yn cael eu cynrychioli'n effeithiol yng Nghymru, y DU a'r byd. Fel asiantaeth strategol, mae'r Asiantaeth Ffilm yn hwyluso datblygiad diwydiant ffilm Cymreig sy'n ddichonadwy ac yn gynaliadwy, ac mae'n hyrwyddo diwylliant ffilm bywiog a deinamig.

Teledu

Ar hyn o bryd, mae'r teledu yn hanfodol yn economaidd i ddiwydiant Cymru, gan fod yn sail i lawer o'r gweithgarwch yn y sectorau perthnasol, megis cyfleusterau a ffilm. Teledu daearol (BBC, ITV ac S4C), a chynhyrchiadau annibynnol yw'r cyflogwyr mwyaf.

Ffeithiau Sydyn:

  • Mae gan deledu weithlu medrus tu hwnt sy'n dod o amrywiaeth o alwedigaethau. Mae rhai yn weithwyr cyflogedig ac eraill yn gweithio ar eu liwt eu hunain, gyda chanran eithaf uchel o siaradwyr Cymraeg, yn arbennig yn y sector annibynnol - sy'n 36% ar hyn o bryd.
  • Yn ôl arolwg gweithlu Skillset, mae 5% o weithlu teledu'r DU yn dod o Gymru.
  • Mae cwmnïau teledu yng Nghymru'n cynhyrchu deunydd i'w ddarlledu'n rheolaidd, ond mae gennym hefyd nifer o gwmnïau annibynnol, bach sydd ond yn cynhyrchu un neu ddau gomisiwn y flwyddyn, gan fwyaf yn yr un dull.
  • Yn ôl cyfrifiad 2006 Skillset, mae'r diwydiant teledu'n darparu mwy na 3,500 o swyddi yng Nghymru, wedi'u rhannu'n gytbwys rhwng darlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol. Yn y sector annibynnol, mae mwy na hanner y gweithlu'n gweithio ar liwt eu hunain.
Ffynhonnell: www.Skillset.org

Rhoi nod tudalen gyda: