Testun yn unig
Diwydiannau Creadigol

Diwydiannau Creadigol

Cyngor Sgiliau Sector

Beth yw'r Cyngor Sgiliau Sector?

Sefydliadau annibynnol a arweinir gan gyflogwyr yw Cynghorau Sgiliau Sector. Maent yn gyfrifol am ymdrin ag anghenion sgiliau a chynhyrchiant eu sectorau diwydiannol ledled y DU. Sefydlwyd y rhain er mwyn penderfynu sut i ddarparu ac ariannu hyfforddiant yn y DU.

Mae'r Cynghorau Sgiliau Sector yn darparu cyfoeth o wybodaeth am dueddiadau'r farchnad lafur mewn meysydd perthnasol. Maent yn cynorthwyo i gael gafael ar y cwmnïau gorau ar gyfer recriwtio graddedigion, canfod lle mae swyddi'n bodoli, nodi pa ddiwydiannau sy'n creu'r mwyaf o fuddsoddiad ac yn gwybod pwy sy'n gallu rhoi'r cyfleoedd datblygu proffesiynol gorau.

Creative & Cultural Skills
Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer hysbysebu, crefftau, treftadaeth ddiwylliannol, dylunio, cerddoriaeth, perfformio a chelfyddydau llenyddol a gweledol.
Skillset
Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiant clyweledol (darlledu, ffilm, fideo, cyfryngau rhyngweithiol a delweddu lluniau)

Rhoi nod tudalen gyda: