Testun yn unig
Ynni A Chynaliadwyedd

Ynni A Chynaliadwyedd

Adnoddau Naturiol a'r Amgylchedd - Y De-orllewin

Sefydliad
Awel Amman Tawe
Prosiect
Adnoddau Naturiol a'r Amgylchedd
Ymgeisydd
Craig Buchanan Perkins (Unigolyn graddedig, Astudiaethau Daearyddol ac Amgylcheddol)
Cynllun
Lleoliadau Gwaith GO Wales

Prosiect ynni cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe yw Awel Aman Tawe. Roedd y prosiect yn chwilio am rywun hyddysg ym maes arbed ynni a chynaliadwyedd i hyrwyddo egwyddorion ynni adnewyddadwy a'r cymorth sydd ar gael.

Safbwynt yr unigolyn graddedig

“Roedd fy ngwaith gydag Awel Aman Tawe yn ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygiadau ffermydd gwynt. Roedd yn cynnwys ymchwilio trwy ddeunyddiau perthnasol, cynnal ffeil gyswllt ymgyngoreion, a defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i gynhyrchu cyflwyniadau gweledol o ffermydd gwynt.”

“Roedd y lleoliad gwaith yn brofiad gwych. Cefais bob anogaeth i gyflawni tasgau heriol, fel:

  • Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol arbenigol
  • Cyfrifoldeb dros waith prosiect fel ffeil gyswllt ymgyngoreion
  • Creu cyflwyniad proffesiynol, gweledol, o'r datblygiadau ffermydd gwynt.

“Mae'r lleoliad gwaith hwn wedi dylanwadu ar fy ngyrfa yn y dyfodol mewn sawl ffordd. Er mai dim ond hyn a hyn o swyddi sydd yn y sector amgylcheddol/elusennol, a'i bod yn sector mor gystadleuol, fe ddangosodd Awel Aman Tawe fod manteision lu o wneud y gwaith hwn.”

“Gan fod gennyf brofiad gwerthfawr o weithio yn y maes hwn bellach, mae gen i fwy o siawns o gael gwaith.”

“Heb os, byddwn yn argymell lleoliad GO Wales i fyfyrwyr a graddedigion eraill. Mae'r profiad wedi rhoi hwb i'm hyder.”