Ynni A Chynaliadwyedd
Trosolwg Sector Cymru
Ar hyn o bryd, mae Cymru ar y blaen gyda chynhyrchu ynni cynaliadwy yn y DU, gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i fuddsoddi mwy mewn ynni dŵr a gwynt. Dŵr Cymru yw'r cwmni cyfleustod sy'n cyflawni orau yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda llawer o ddarparwyr gwasanaethau ynni yn gweithredu'n gystadleuol yn y sector. Mae'r prif gwmnïau cyfleustod sydd wedi'u rhestru isod yn ogystal â'r gweithfeydd ynni/petrocemegol mwy yn cynnig cyfleoedd i raddedigion.
- Yn y gorllewin mae gan Sir Benfro glwstwr cryf o ddiwydiannau petrocemegol wedi'u lleoli o gwmpas purfeydd Doc Penfro ac Aberdaugleddau a'r cyfleuster storio nwy naturiol hylifedig yn Waterston.
- Yn y sector ynni adnewyddadwy, mae fferm wynt fwyaf pwerus y DU wedi agor ger Aberystwyth, sydd â'r gallu i gyflenwi trydan i 42,000 o gartrefi. Falck Renewables sydd wedi'i ddatblygu ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus iawn i ddatblygu mwy o'r cyfleusterau hyn yn y canolbarth, y gorllewin a'r de.
- Yn y de mae'r clwstwr fwyaf o ddarparwyr ynni a gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys Dŵr Cymru, Wales and West Utilities a Nwy Prydain. Rhain yw rhai o gyflogwyr mwyaf Caerdydd a Chasnewydd, gyda 1200 yn gweithio i Wales and West Utilities ar hyn o bryd.
- Yn y gogledd cynhyrchir trydan dŵr, cynaliadwy ac mae hefyd yn gartref i ddarparwyr amlgyfleustodau. Machynlleth ym Mhowys yw lleoliad y Ganolfan Dechnoleg Amgen sef un o brif ganolfannau cynaladwyedd Ewrop gan ddarparu addysg, hyfforddiant a chyngor ar ynni adnewyddadwy, adeiladu amgylcheddol, effeithlonrwydd ynni ac ecodrafnidiaeth.
Rhoi nod tudalen gyda: