
Mae gan Gymru sector gwasanaethau ariannol bywiog sy'n tyfu. Mae'n gartref i dros 1,800 o gwmnïau sy'n cyflogi tua 28,000 o bobl, ac mae'n cyfrannu 5% tuag at gynnyrch mewnwladol crynswth Cymru.
Banciau a chymdeithasau adeiladu sy'n dominyddu'r sector yng Nghymru, gan gyflogi 62% o'r gweithlu. Mae cwmnïau yswiriant a phensiynau'n isadran bwysig, gan gyflogi 21% o'r gweithlu. Mae'r gweddill yn gweithio mewn mentrau gweithredu a goruchwylio. Mae'r rhain yn cynnwys broceriaid yswiriant, cynghorwyr ariannol annibynnol, rheolwyr cronfeydd, rheolwyr asedau, broceriaid stoc, actiwarïaid, addaswyr colledion; rheolwyr risg, cyfnewidfeydd, rheolwyr cyfoeth.
Ers dechrau'r 1990au, mae llawer o gwmnïau gwasanaethau ariannol Prydeinig a byd-eang wedi cael eu sefydlu a'u hehangu yng Nghymru. Yn eu mysg mae HBOS, Lloyds TSB, HSBC, Zurich, GMAC, GE a Legal & General. Yn ogystal â hyn, mae cwmnïau lleol megis Admiral Insurance, Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Julian Hodge Bank a Thomas, Carroll wedi ehangu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf (dechreuodd Admiral yng Nghaerdydd gyda 57 o staff ym 1993. Heddiw, mae ganddo filiwn o gwsmeriaid, trosiant o £548 miliwn ac mae ganddo 1,700 o weithwyr mewn safleoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe).
Mae llawer o gwmnïau arbenigol arloesol llai yn dangos cynnydd cadarn, er enghraifft, cynyddodd trosiant gweithrediad Composite Legal Expenses Caerdydd o £2.8 miliwn i £14 miliwn rhwng 2001 a 2002. Mae ehangder y gwasanaethau a'r swyddogaethau'n cynyddu hefyd. Ym 1996, agorodd Legal & General ganolfan cyswllt fach yng nghanol Caerdydd. Heddiw, lleolir canolfan gweithrediadau gwasanaeth DU'r cwmni yma, ynghyd â'i busnes buddsoddiadau manwerthu, busnes uniongyrchol a chanolfan tansgrifeniad meddygol. Gyda 2,000 o weithwyr, Caerdydd yw gweithrediad mwyaf y cwmni yn y DU.
Mae sector Cymru wedi gweld cynnydd mewn cwmnïau ar y rhyngrwyd hefyd, megis Moneysupermarket.com, InsureYourMotor.com, a Creditsafe.com.
Rhoi nod tudalen gyda: