Testun yn unig
Y Sector Cyhoeddus

Y Sector Cyhoeddus

Proffiliau Cwmnïau

Rhoddir rhai enghreifftiau isod, ond noder nad yw'r rhestr hon yn gyflawn:

GIG Cymru
Fel cyflogwr mwyaf Cymru gyda 81,000 o weithwyr cyflogedig a 133 o ysbytai a chlinigau, mae'r gwasanaeth iechyd yn gallu cynnig dros 200 o gyfleoedd gwaith amrywiol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion dyddiol pobl Cymru, gan gynnwys materion ynglŷn â'r economi, iechyd, addysg a llywodraeth leol.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith ac yn ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau'r Llyfrgell.
Cyngor Chwaraeon Cymru
Cyngor Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer datblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffordd iach o fyw. Hwn yw prif gynghorwr Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faterion chwaraeon ac mae'n gyfrifol am ddosbarthu arian y Loteri Cenedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.
Y Gwasanaeth Carchardai
Mae'r Gwasanaeth Carchardai'n cynnig amrywiaeth o swyddi sy'n rhoi boddhad. Yn ogystal â swyddogion carchardai, mae yna gyfleoedd gwaith ym maes hyfforddiant, gofal iechyd, caplaniaeth, seicoleg, cefnogaeth weithredol, amaethyddiaeth, arlwyo, adeiladu a chrefftau perthynol a gweinyddiaeth, yn ogystal â chynlluniau datblygu a rheoli dwys.
Yr Heddlu
Y Gwasanaeth Tân
Prifysgolion
Cynghorau Lleol yng Nghymru
Amgueddfeydd

Rhoi nod tudalen gyda: