Testun yn unig
Y Sector Cyhoeddus

Y Sector Cyhoeddus

Trosolwg Sector Cymru

Y sector cyhoeddus sydd â'r nifer fwyaf o weithwyr yng Nghymru o bell ffordd, gan gyflogi 23.7% o'r boblogaeth waith. Mae cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn genedlaethol wedi cynyddu'n barhaus.

Mae'r Sector Cyhoeddus yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiwydiannau sy'n cael eu hariannu gan y cyhoedd, gan gynnwys:

  • Iechyd
  • Gofal Cymdeithasol
  • Addysg
  • Gorfodi'r Gyfraith
  • Llywodraeth Leol/Rhanbarthol
  • Addysg Uwch
  • Y Gwasanaeth Carchardai
  • Y Gwasanaeth Tân
  • Gwasanaethau Llyfrgell
  • Amgueddfeydd
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Tai

Mae gan swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddimensiwn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r cyfleoedd gwaith o fewn diwydiannau'r sector cyhoeddus yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau generig hefyd, o gyllid a chyfrifeg, cyfraith, rheoli prosiect, marchnata, adnoddau dynol, technoleg gwybodaeth, cyfathrebu a gweinyddiaeth, ochr yn ochr â chymwysterau ac arbenigedd sy'n benodol i'r diwydiant.

Rhoi nod tudalen gyda: