
Elusen gofrestredig yw Prosiect Ieuenctid, Canolfan galw heibio a Siop Gwybodaeth Aberteifi (A43), a sefydlwyd i roi cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae Area 43 wedi ymgymryd â nifer o leoliadau gwaith trwy'r rhaglen GO Wales.
Roedd Area 43 angen gweithiwr ieuenctid i helpu gyda phrosiectau amrywiol yn y ganolfan.
Mae rhaglen GO Wales wedi helpu Area 43 i ddatblygu tîm o raddedigion medrus iawn sy'n cynllunio a darparu prosiectau yn y sefydliad. Mae pob un unigolyn graddedig a fu ar leoliad GO Wales wedi cael cynnig gwaith pellach gydag Area 45 o ganlyniad.
Mae Sally Edwards, Rheolwr Area 43 yn hapus iawn gyda'r canlyniad:
“Mae'r myfyrwyr sydd wedi dod atom ar leoliadau GO Wales wedi gallu integreiddio'n dda gyda'n tîm, gwneud defnydd trwyadl o'n proses sefydlu, wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant a manteisio ar y gefnogaeth a gynigwyd iddynt yn ystod goruchwyliaeth.”
“Mae Carolyn Ashling, sydd ar leoliad gyda ni ar hyn o bryd, yn defnyddio'i gradd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn ei chysylltiad dyddiol â'r bobl ifanc sy'n defnyddio Area 43. Mae'n gallu cyflwyno hyfforddiant i staff, gwirfoddolwyr a chleientiaid mewn prosiectau dylunio creadigol a chelfyddydau amrywiol hefyd.”
“Mae cynllun GO Wales wedi ehangu gallu Area 43. Mae'r rhan fwyaf o'r graddedigion sydd wedi bod ar leoliad gyda ni wedi bod â'r aeddfedrwydd, y dychymyg a'r gallu i ddechrau, cynllunio a chyflwyno prosiectau annibynnol yn ein sefydliad. Mae tîm y staff a'r graddedigion wedi elwa ar rannu sgiliau a phrofiadau ac mae cleientiaid Area 43 wedi cael cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd a hyfforddiant newydd.”
Rhoi nod tudalen gyda: