
Cwmni meddalwedd o Gaerdydd sy'n datblygu cymwysiadau gwe syml a diogel yw InPractice.org. Mae'n arbenigo mewn atebion gweinyddol, yn enwedig i adrannau sydd ar fwy nag un wefan.
Cyflogwyd Ellis gan Dan Bridge cyn ystyried cyflogaeth lawn amser i weld a fyddai'r cwmni'n gallu mentora rhywun oedd newydd raddio ac i weld a fyddai Ellis yn gweddu i'r sefydliad. Meddai:
“Rydyn ni'n fusnes cymharol newydd ac, wrth i ni dyfu, rydyn ni am gynnal yr ystwythder hwnnw. Roedd angen i ni weld a fyddai'r ymgeisydd yn hapus i weithio yn ein hamgylchedd.”
“O ran deallusrwydd, y nod gydag Ellis oedd gweld a allen ni ei hyfforddi fel rhaglennydd meddalwedd er nad oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol, gan ei fod newydd raddio gyda gradd mewn ffiseg. Felly, roedd yn mynd i fod yn dipyn o her o reidrwydd ond roedd y lleoliad yn gyfle gwych i InPractice.org ac Ellis weld a oedd hi'n bosibl. Roedd Ellis yn wych a phenderfynwyd ei gyflogi'n syth; mae popeth yn bosibl!”
“Rwy'n credu bod InPractice.org ac Ellis wedi elwa'n fawr ar y lleoliad o ran twf. Mae InPractice.org yn sicr wedi elwa ar gynllun GO Wales gan ei fod yn darparu'r cymorth i ddod o hyd i aelodau staff newydd fel Ellis a'u mentora.”
“Erbyn hyn, Ellis yw un o brif ddatblygwyr cynnyrch newydd y bydd InPractice.org yn ei lansio i BBaChau y gwanwyn nesaf, sef Woosabi (www.woosabi.com). Heb Ellis a GO Wales, byddai Woosabi rai misoedd ar ei hôl hi yn lansio'i gynnyrch newydd!”
“Roeddwn i'n ffodus iawn i gael cynnig swydd lawn amser fel rhaglennydd meddalwedd gydag InPractice.org. Ar hyn o bryd, rydw i wrthi'n datblygu rhaglen o'r enw Woosabi, sef offeryn a fydd yn helpu busnesau i reoli eu cwsmeriaid a'u cyllid. Mae'n gyffrous iawn ac rwy'n falch o fod yn rhan o rywbeth mor fawr.”
“Datblygais lawer o sgiliau yn ystod y lleoliad, ac rwy'n eu defnyddio o ddydd i ddydd ac yn parhau i'w gwella. Rydw i hefyd yn dod yn fwyfwy cyfarwydd ag ieithoedd rhaglennu fel PHP a Javascript.”
“Byddem yn argymell cynllun GO Wales i fyfyrwyr a graddedigion. Rwy'n credu ei bod hi'n ffordd wych o gael "blas" ar swydd y mae gennych chi ddiddordeb ynddi. Dwi'n difaru dim!”
Mae Ellis Pires bellach yn Rhaglennydd Meddalwedd sy'n gweithio ar ddatblygu cynnyrch newydd i InPractice.org yn dilyn lleoliad gwaith deg wythnos llwyddiannus.
Bookmark with: