Technoleg
Proffiliau Cwmnïau
- Alcatel-Lucent
- Cwmni telathrebu byd-eang. Gyda 79,000 o staff dros y byd a chyfranddaliadau ar farchnad stoc Efrog Newydd, mae Alcatel yn darparu atebion cyfathrebu i sefydliadau a llywodraethau ledled y byd. Mae atebion yn cynnwys cyfathrebu llais, data a fideo, band eang ar ffonau symudol, technolegau, cymwysiadau a gwasanaethau eiddo deallus a chludo. Mae safle Alcatel ger Casnewydd yn cyflogi 550 o staff.
- Mitel Networks Cyf
- Darparwr atebion a gwasanaethau cyfathrebu i fentrau a busnesau bach ledled y byd. Mae'r cwmni o'r UDA yn canolbwyntio ar lwyfannau cyfathrebu, rheoli mentrau, ffonau busnes (eiddo deallus) a gwasanaethau di-wifr, symudedd a chynadledda i amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae gan Mitel safle ger Casnewydd sy'n cyflogi 560 o staff.
- International Rectifier Newport Cyf
- Mae IR Newport yn canolbwyntio ar y marchnadoedd analog ac arwyddion cymysg ac ar hyn o bryd mae'n gweithredu prosesau CMOS a PowerMOSFET yn ei safle yn y de. Mae gan IR Newport mwy na 100 o beirianwyr profiadol iawn ar y safle. Datblygir y genhedlaeth ddiweddaraf o gynnyrch cylched integredig mewnol ac arwahanol yno.
- IQE ccc
- Cyflenwr epiwafer masnachol. Ffurfiwyd IQE ccc ym mis Mai 1999 drwy uno dwy ffowndri wafer flaenllaw, gyda'r ddwy wedi profi eu hunain yn y gorffennol yn cyflenwi deunyddiau electronig a optoelectronig o ansawdd uchel wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio llwyfannau MBE a MOCVD. Mae IQE Plc wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac yn cyflogi 230 o staff.
- Thomson Broadband UK Cyf
- Darparwr cynnyrch a chymwysiadau yn cynnwys Protocol Llais dros y Rhyngrwyd a rheoli o bell. Mae Thomson nawr yn darparu porth cartref DSL di-wifr i BT. Mae Thomson wedi'i leoli ym Mhont-y-clun ac yn cyflogi 220.
- Woodhead
- Cwmni cysylltedd a Chyfathrebu Diwydiannol sy'n cyflenwi cardiau rhyngwyneb rhwydwaith i gyfrifiaduron personol, modiwlau PLC NI, meddalwedd, offerynnau diagnostig, cyfryngau ffisegol, pyrth a switshis gweithredol i fusnesau ledled y byd. Mae safle Woodhead yng Nglynebwy yn cyflogi 250 o staff.
- Orion Electric (DU) Cyf
- Rhan o'r grŵp electroneg Orion Siapaneaidd. Mae'r safle ym Mhort Talbot yn cynhyrchu setiau teledu ar gyfer marchnad y DU ac Ewrop, gan gyflogi gweithlu o 260. Ledled y byd mae Orion yn cyflogi 11,000 yn ei waith cynllunio, cynllunio datblygu, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch clyweledol a TG.
- Harman/Becker Automotive Systems
- Rhan o Harman International Industries, sy'n cynhyrchu cynnyrch clywedol ac electroneg ar gyfer defnydd modurol, defnyddwyr a phroffesiynol. Mae Harman yn berchen ar frandiau eraill yn y diwydiant hwn yn cynnwys Digitech, Lexicon, GNX a Infinity Systems. Mae gan Harman safle ym Mhen-y-bont sy'n cyflogi 800 o staff.
- Biotrace International ccc
- Mae Biotrace yn gwmni 3M sy'n cynhyrchu ac yn cyflenwi cynnyrch microbiolegol diwydiannol, gan ddarparu i gwsmeriaid yn y diwydiannau bwyd ac amgylcheddol, fferyllol, gofal personol a cholur ac amddiffyn. Mae pencadlys rhyngwladol Biotrace wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ac yn cyflogi 350 o staff.
- Biomet (DU) Cyf - Atebion Orthopedig
- Mae'r cwmni'n arbenigo mewn datblygu, cynhyrchu a marchnata cynnyrch i drin afiechydon esgyrn a meinwe feddal, yn cynnwys cymalau newydd, trawma, asgwrn cefn, systemau smentio a bioddeunyddiau. Mae Biomet yn gwmni byd-eang o'r Iseldiroedd sydd â safle ym Mhen-y-bont yn cyflogi 600 o staff.
Rhoi nod tudalen gyda: