
Dros y tri degawd diwethaf, mae gan sector technoleg Cymru hanes nodedig o arloesi. Mae'i weithlu medrus o 30,000 yn cynrychioli 5.5% o'r Gwerth Ychwanegol Crynswth i economi Cymru. Mae trosiant cyfunol y diwydiant nawr yn fwy na £3.2 biliwn, gyda chymysgedd iach o fusnesau sefydlog a mentrau ifanc sy'n tyfu'n gyflym.
Mae cydbwysedd y diwydiant wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar o gynhyrchu ar raddfa fawr, i gynhyrchu ar raddfa is, gwerth uwch ac arbenigol. Mae Cymru bellach yn gartref i nifer sefydlog o gwmnïau llai mwy arbenigol. Mae'r mentrau hyn yn dueddol o leoli eu pencadlys, gwaith ymchwil a datblygu neu ran sylweddol o'u gweithrediadau yma. Amcangyfrifir bod y diwydiant technoleg yng Nghymru yn cynnwys oddeutu 300 o gwmnïau canolig a mawr a hyd at 3,000 o gwmnïau arbenigol bach.
Mae'r sector technoleg yng Nghymru wedi'i rannu'n bedwar is-sector allweddol. Y rhain yw:
Tra bod cwmnïau bach arbenigol yn sefydlu eu hunain ledled Cymru, mae'r sector technoleg a thelathrebu yn parhau i weithredu ar hyd coridor yr M4 ac ardal y de-ddwyrain/cymoedd gan fwyaf. Mae'n well gan y cwmnïau byd-eang sy'n sefydlu pencadlysoedd yn yr ardal hon fod yn agosach at brif farchnadoedd cyfreithiol ac ariannol Llundain, ac mae'n haws recriwtio gweithlu medrus a thechnegol yma hefyd.
Rhoi nod tudalen gyda: