Testun yn unig
Twristiaeth

Twristiaeth

Cynllunio Busnes - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Adventure Wales
Prosiect
Cynllunio Busnes
Ymgeisydd
Carlyn Treloar (Astudiaethau Busnes a Rheoli)
Cynllun
Lleoliadau Gwaith GO Wales

Busnes teulu yw Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf sydd wedi hen ymsefydlu ers agor ym 1992. Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli ar fferm waith fynyddig sy'n ffermio 600 o ddefaid a 100 o wartheg. Yn y 15 mlynedd ddiwethaf mae'r ganolfan wedi ehangu'n sylweddol i gynnwys gweithgareddau fel teithiau Beiciau Cwad drwy gefn gwlad a chylch Beicio Cwad i blant.

Amcan y Prosiect 1

Dechreuodd Carlyn Treloar ar ei lleoliad gwaith cyntaf gyda Chanolfan Cwm Taf yn ystod ei hail flwyddyn o astudio. Ei phrif ddyletswyddau oedd cynorthwyo gyda'r gwaith cyffredinol o gynnal y swyddfa brysur, delio ag ymholiadau ar y llinell gymorth a chadw trefn ar gyfrifon y cwmni.

Amcan y Prosiect 2

Bu Carlyn ar ail leoliad gyda'r cwmni ar ôl iddi raddio lle bu'n edrych ar y posibiliadau o ddatblygu busnes newydd yn Wales Activity Breaks sy'n canolbwyntio ar becynnau gweithgareddau i ddiwallu ystod eang o anghenion.

Canlyniad y Prosiect

Saethyddiaeth yn Adventure Wales

Datblygodd Carlyn Treloar ei busnes ei hun - Wales Activity Breaks - ar ôl bod ar leoliad gyda Chanolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf.

“Rhoddodd gweithio i gwmni bach y cyfle i mi weithio ym mhob maes busnes. Doeddwn i ddim am fod yn swyddog marchnata neu'n swyddog cyfrifon - roeddwn i am gael fy musnes fy hun. Wrth weithio gyda'r Ganolfan cefais y cyfle i gyfarfod llawer o bobl mewn canolfannau gweithgareddau, gwestai ac ati ac roedd hyn yn gymorth mawr i mi wrth sefydlu Wales Activity Breaks.”

“Dechreuais gysylltu â rhai busnesau oedd â chysylltiadau â'r Ganolfan, fel canolfannau gweithgareddau a gwestai a oedd yn fodlon gweithio gyda mi. Penderfynais fynd ati i agor y cyfrifon banc angenrheidiol, sefydlu enw parth a dechrau creu cysylltiadau â chyflenwyr.”

“Mae'r busnes bellach yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a lleoedd i aros ledled Cymru i grwpiau 'stag' a 'hen', teuluoedd, grwpiau corfforaethol, ieuenctid ac ati. Mae'r busnes wedi bod ar ei draed ers blwyddyn bellach ac yn brysur iawn. Rydyn ni'n ehangu'r swyddfa er mwyn i ni allu cyflogi mwy o bobl.”

“Heb gymryd rhan yng nghynllun lleoliad gwaith GO Wales ni fyddwn i'n gwneud hyn heddiw, rhoddodd gyfle i mi brofi bob agwedd ar amgylchedd gwaith go iawn.”

Rhoi nod tudalen gyda: