Testun yn unig
Twristiaeth

Twristiaeth

Trosolwg Sector Cymru

Mae twristiaeth yng Nghymru yn gangen bwysig o'r economi sy'n cynhyrchu refeniw o tua £3 biliwn y flwyddyn. Mae Cymru'n denu mwy na 11 miliwn o ymwelwyr pob blwyddyn, gyda 10 miliwn ohonynt yn byw yn y DU ei hun.

Yn 2004-5, buddsoddwyd £6.7 miliwn o arian Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn 111 o brosiectau, o dan ei chynllun cefnogi buddsoddiad, gan greu £40 miliwn o fuddsoddiad (gyda £21.2 miliwn ohono'n dod o'r sector preifat). Creodd neu diogelodd hyn 435 o swyddi llawn-amser.

Roedd y rhan fwyaf o'r gwaith hysbysebu a hyrwyddo a gwblhawyd yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei wneud trwy'r ymgyrch Mawredd Mawr, ac yn sgil hyn, gyda chyllideb o tua £6 miliwn, crëwyd incwm ychwanegol o dros £100 miliwn.

Ffeithiau Sydyn

  • Mae twristiaid yn gwario dros £8 miliwn y diwrnod ar deithiau yng Nghymru - cyfanswm o tua £3 biliwn y flwyddyn.
  • Mae twristiaeth yn cyfrannu'n uniongyrchol at 3.7% o werth ychwanegol yr economi gyfan yng Nghymru.
  • Mae'r sector twristiaeth yn cyflogi tua 100,000 o bobl yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli tua 9% o'r gweithlu.
  • O'r DU y daw 93% o'r teithiau twristiaeth i Gymru.
  • Mae 70% o dwristiaid y DU yn dod i Gymru am wyliau, 20% i ymweld â ffrindiau neu berthnasau a 7% ar deithiau busnes.
  • Mae dros filiwn o deithiau'n cael eu gwneud i Gymru bob blwyddyn gan dwristiaid tramor. Daw llawer o'r ymwelwyr tramor o wledydd fel Gweriniaeth yr Iwerddon, yr Unol Daleithiau a'r Almaen.
  • Mae 50% o'r teithiau gan dwristiaid y DU yn mynd i gefn gwlad neu i drefi/pentrefi bach.
  • Y gweithgareddau mwyaf poblogaidd a wneir gan dwristiaid yng Nghymru yw: cerdded, nofio, ymweld ag atyniadau hanesyddol megis cestyll ac ymweld ag amgueddfeydd ac orielau.
  • Yr atyniad mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw Amgueddfa Werin Cymru, sy'n denu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
  • Mae 80,000 o welyau ar gael mewn lletyau â gwasanaeth yng Nghymru.

Adroddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae gan y pedair ardal economaidd yng Nghymru batrymau twristiaeth unigryw. Mae'r taflenni ffeithiau ymchwil hyn yn rhoi gwybodaeth am bob taith twristiaeth dros nos, llety â gwasanaeth a nifer yr ymwelwyr a ddaeth i weld atyniadau yn y pedair ardal yn 2005. Daeth y wybodaeth o Arolwg Twristiaeth y Deyrnas Unedig, yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, Arolwg Defnydd o Lety â Gwasanaeth Cymru ac Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau Ymwelwyr yng Nghymru.

Arolwg Busnes Twristiaeth

Mae pum arolwg yn cael eu gwneud mewn blwyddyn ar ôl cyfnodau gwyliau pwysig er mwyn cael barn gweithredwyr busnesau am berfformiad eu busnes. Mae 200 o fusnesau'n cael eu cyfweld gyda chynrychiolaeth o'r gwahanol ardaloedd a'r gwahanol fathau o fusnes.

Gweld adroddiadau'r arolwg

Tueddiadau Twristiaeth yng Nghymru

Daw'r wybodaeth ar gyfer yr adroddiad ar dueddiadau o ymchwil Croeso Cymru a ffynonellau perthnasol eraill. Ei nod yw rhoi darlun clir o berfformiad twristiaeth a thueddiadau economaidd mwy cyffredinol.

Gweld y tueddiadau twristiaeth
Arolwg ymwelwyr Croeso Cymru 2006 23/02/07
Yn ystod haf 2006, comisiynodd Croeso Cymru TNS Travel & Tourism i wneud arolwg o ymwelwyr i Gymru, er mwyn gweld y lefelau o foddhad gyda phob agwedd ar yr ymweliad. Roedd hwn yn ddilyniant o arolygon ymwelwyr o'r DU a thramor a gynhaliwyd eisoes yn 2001 a 2003.
Twristiaeth carafán domestig (y DU) i Gymru 08/11/06
Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 1600 o safleoedd carafannau. Mae 2.5 miliwn o dwristiaid yn aros ar y safleoedd hyn bob blwyddyn gan wario tua £276 miliwn ar gyfartaledd.
Twristiaeth yng Nghymru yn ôl lleoliad 08/11/06
Ble mae pobl yn aros pan fyddant yn dod i Gymru - yr arfordir, dinasoedd neu gefn gwlad? A pha wahaniaeth y mae lleoliad yn ei wneud?
Teithiau domestig (DU) i Gymru yn ôl rhanbarth tarddiad 08/11/06
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffigurau Arolwg Twristiaeth y Deyrnas Unedig (UKTS) er mwyn gweld pa farchnadoedd rhanbarthol y DU sydd bwysicaf i Gymru.
Gwyliau Gweithgaredd yng Nghymru 08/11/06
Mae marchnad weithgaredd Cymru yn dod yn sector dwf gynyddol bwysig. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r wybodaeth sy'n ymwneud â gwyliau gweithgaredd yng Nghymru.
Gwyliau hamdden yng Nghymru 07/11/06
Mae trigolion o'r DU yn mynd ar gyfartaledd o 0.5 miliwn o deithiau yng Nghymru bob blwyddyn er mwyn gwneud rhyw fath o hamdden penodol. Mae'r teithwyr hyn yn cyfateb i 1.5 miliwn o nosweithiau mewn gwelyau a thros £73 miliwn o wariant.
Ymweld ag atyniadau twristiaeth yng Nghymru 07/11/06
Mae Cymru'n parhau i ddibynnu'n gryf ar atyniadau bach sy'n cofnodi llai na 50,000 o ymweliadau... mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun cynhwysfawr o atyniadau twristiaeth yn 2005.
Cyfanswm a gwerth twristiaeth yng Nghymru 07/11/06
Mae hwn yn rhoi cipolwg o'r prif ystadegau ar gyfer cyfanswm a gwerth twristiaid o'r DU a thramor i Gymru.
Twristiaeth domestig (DU) yng Nghymru 07/11/06
Mae'r ymwelwyr domestig (DU) yn cynrychioli'r rhan bwysicaf o'r galw am dwristiaeth yng Nghymru. Mae'r daflen ffeithiau hon yn rhoi crynodeb o wybodaeth am eu proffil a'u nodweddion ymddygiad.

Rhoi nod tudalen gyda: