Bu’r rhaglen a ariannwyd o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn rhedeg o 2016 – 2022. Roedd y rhaglen wedi’i bwriadu i gefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr ifainc ar gyrsiau addysg uwch yng Nghymru a oedd yn wynebu rhwystrau i fynediad at addysg uwch neu brofiad gwaith ac a oedd fwyaf mewn perygl o beidio â sicrhau cyflogaeth, addysg na hyfforddiant wrth adael eu cwrs addysg uwch.
Cliciwch yma i weld detholiad o storïau myfyrwyr
Partneriaeth oedd y rhaglen rhwng Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a’r prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam).
Mae’r gwerthusiad o’r rhaglen ar gael ar wefan CCAUC.
Gall myfyrwyr a gefnogwyd gan y rhaglen a ariannwyd o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith, rhwng mis Ebrill 2016 a mis Hydref 2022 weld yr hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â’r data a gasglwyd gan y rhaglen yma.
Gall cyflogwyr a gynhaliodd leoliadau profiad gwaith ar y rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith weld yr hysbysiad preifatrwydd yma.
Gall myfyrwyr a chyflogwyr gysylltu â CCAUC gan ddefnyddio’r cyfeiriad atwe@hefcw.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am y data a ddelir gennym. Bydd arnom angen i chi gadarnhau pwy ydych er mwyn gallu prosesu eich cais.