Hysbysiad preifatrwydd

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yw Prif Fuddiolwr Rhaglen GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith ac mae'n rheolydd data cofrestredig gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i warchod unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych chi. Rydym yn cadw'n llym at safonau diogelwch i atal unrhyw ddefnydd heb awdurdod o'ch data.

Dim ond at y diben a ddisgrifir y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ac ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i unrhyw gorff arall ac eithrio pan fo hyn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith neu i warchod ein gwasanaethau neu eraill.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Pan rydych yn mynd ar ein gwefan rydym yn cofnodi eich cyfeiriad IP sy'n cael ei ddosbarthu fel gwybodaeth bersonol. Rydym hefyd yn cofnodi'r math o borwr sydd gennych chi (e.e. Internet Explorer, Firefox, Google Chrome) a'r wefan gyfeirio (os mai'r wefan ddiwethaf i chi ymweld â hi ddarparodd ddolen atom ni).

Rydym yn defnyddio data mewn ffeiliau cofnodi i lunio ystadegau am ddefnydd o'r wefan ac i olrhain camgymeriadau. Nid ydym, o dan unrhyw amgylchiadau, yn defnyddio'r data i adnabod ymwelydd neu olrhain gweithgarwch ymwelydd ar y safle. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gwneud hyn er mwyn adnabod gweithgarwch sy'n camddefnyddio'r safle.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon i ddarparu gwasanaethau a systemau TG cadarn, sy'n gweithio'n effeithiol.

Cedwir cofnodion am 12 mis cyn eu dileu'n barhaol.

Dolenni at wefannau eraill

Cofiwch fod gwefan GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni hyn i wefannau eraill. Nid ydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb nac atebolrwydd am bolisi preifatrwydd unrhyw rai o'r gwefannau hyn ac rydym yn eich annog i ddarllen datganiadau preifatrwydd y gwefannau eraill rydych yn ymweld â hwy.

Cysylltu â ni

Rydym yn ceisio bod mor agored â phosib o ran rhoi mynediad i chi at eich gwybodaeth bersonol. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych rai hawliau penodol sy'n cael eu hesbonio yn www.ico.org.uk.

Mae'r hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol yn cael ei adnabod fel gwneud cais am fynediad pwnc. Mae gennych chi hawl i wybod pa wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi a gallwch wneud y cais hwn, yn ysgrifenedig, i atwe@hefcw.ac.uk. Bydd rhaid i ni allu cadarnhau pwy ydych chi er mwyn prosesu eich cais.

Os oes gennych chi adborth ar y wefan hon, gallwch gysylltu â ni ar atwe@hefcw.ac.uk

Newidiadau i'n hysbysiad preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn ddisgrifiad manwl o sut rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol. Efallai y caiff yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru o dro i dro, er enghraifft, pan ddaw deddfwriaeth newydd i rym neu wrth ychwanegu dibenion neu systemau newydd.

Mae adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 12 Medi 2023.