GO Wales yw’r enw ymbarél ar gyfer y cyllid y mae darparwyr addysg uwch (AU) Cymru yn ei gael gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu cyflogadwyedd. Diben y cyllid yw cefnogi myfyrwyr y gall fod arnynt, am amryw resymau, angen ychydig o help ychwanegol i wireddu eu huchelgeisiau gyrfaol pan fyddant yn graddio.
Mae’r holl gymorth yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan fod yn seiliedig ar yr hyn y mae ar y myfyriwr ei angen i ddatblygu ei gyflogadwyedd.
Mae ymgynghorwyr GO Wales mewn sefydliadau AU yn cefnogi myfyrwyr trwy wneud y canlynol:
Dod o hyd i brofiad gwaith o hydoedd amrywiol, ar-lein, yn y cnawd neu drwy ddull hybrid
Ad-dalu costau fel bod profiad gwaith yn fforddiadwy i bawb
Rhoi bwrsariaethau ar gyfer costau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd neu gyflogaeth
Cynnig coetsio gyrfa
Sefydlu cyfarfodydd gyda chyflogwyr i gael gwybodaeth am rôl, cwmni neu sector
Trefnu cyfleoedd rhwydweithio
Rhoi cymorth arall gyda chyflogadwyedd, gan gynnwys meithrin hyder
Rhoi cymorth mentora
Os ydych chi’n fyfyriwr AU sy’n astudio yng Nghymru a bod angen ychydig o help ychwanegol arnoch i ddatblygu eich cyflogadwyedd, yna gall cymorth gan GO Wales eich grymuso i wireddu eich potensial, cyrraedd eich nodau a chyflawni eich dyheadau. Efallai fod gan eich darparwr chi enw arall ar gyfer GO Wales, felly cysylltwch â’ch darparwr i weld beth maen nhw’n ei gynnig. Cliciwch yma i lawrlwytho manylion cyswllt
Mae ar raglen GO Wales angen cyflogwyr a all gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn yr hyn yr ydych chi’n ei wneud. Yn ogystal â buddsoddi yn nyfodol myfyriwr trwy gynnig y cyfle iddynt ddod i wybod mwy am eich sefydliad, eich rôl a’ch sector, gallech adnabod darpar recriwtiaid newydd sy’n gwybod am eich busnes ac yn ymddiddori ynddo, cael budd o safbwynt gwahanol a chael cyfle i ddangos eich cyfrifoldeb cymdeithasol.
Os ydych chi’n gyflogwr sydd â diddordeb mewn ysbrydoli myfyrwyr ynglŷn â’ch sector chi a chynnig cyfleoedd i weithlu’r dyfodol, yna cysylltwch â’ch darparwr lleol. Cliciwch yma i lawrlwytho manylion cyswllt
Mae’r gweithgarwch hwn yn adeiladu ar y rhaglen a ariannwyd o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), Cyflawni drwy Brofiad Gwaith.