Datganiad hygyrchedd ar gyfer www.gowales.co.uk

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r wefan a gynhelir yn www.gowales.co.uk.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am i gynifer ag sy'n bosibl o bobl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylai fod modd ichi:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy'n bosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch sut i'w gwneud hi'n haws defnyddio eich dyfais os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Mae pob rhan o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon ar ffurf wahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille, anfonwch e-bost i atwe@hefcw.ac.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod.

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan

Rydym wrthi'n barhaus yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os cewch hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o'r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost i atwe@hefcw.ac.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ('y rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA fersiwn 2.1 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG).

Baich anghymesur

Dim.

Cynnwys sydd y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r wefan yn cynnwys unrhyw cynnwys sydd y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn cynnal archwiliadau hygyrchedd rheolaidd er mwyn sicrhau bod y wefan yn parhau i fod yn hygyrch, ac yn bodloni safonau cyfredol a safonau'r dyfodol.

Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd ac adolygwyd y datganiad hwn ar 23 Mehefin 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 23 Mehefin 2023. Cynhaliwyd y prawf gan CCAUC. Profwyd hygyrchedd pob tudalen.