×
Mae’r rhaglen GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith bellach wedi dod i ben. Ewch i hefcw.ac.uk am wybodaeth am gymorth arall sydd ar gael.

Darllenwch sut rydyn ni wedi cefnogi myfyrwyr i mewn i brofiad gwaith.

Jamil Khan – Daearyddiaeth Amgylcheddol

Roedd Jamil ar ei ail flwyddyn astudio gradd Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd pan gafodd ei gyfeirio i raglen GO Wales gan y gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr. I ddechrau, roedd Jamil am ganlyn gyrfa yn y sector ariannol, a gwyddai pa mor werthfawr y byddai profiad gwaith er mwyn sicrhau swydd ar lefel raddedig ar ôl y brifysgol. Roedd y farchnad gyflogaeth wedi troi'n fwyfwy heriol yn ystod y pandemig, ac roedd yn hanfodol i Jamil gystadlu’n effeithiol am swyddi graddedigion, gan ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei deulu, heb rwydwaith i'w gefnogi, ac wedi bod y byw'n annibynnol o safbwynt ariannol ers cryn amser. Drwy gael swydd raddedig gallai sicrhau ei fod yn gwbl hunangynhaliol.

Darllen mwy...

Yn dilyn rhagflas cychwynnol o'r gwaith gyda chwmni gwasanaethau ariannol, sylweddolodd Jamil mai yn y sector amgylcheddol y gallai wneud y defnydd gorau o'i sgiliau, felly cafodd ei leoli gyda Terra Firma, cwmni arbenigol Geodechnegol a Geoamgylcheddol. Yn ystod y cyfle hwn, cafodd Jamil elwa ar gymryd rhan mewn astudiaethau desg, gan gysgodi cydweithwyr a chymryd rhan mewn ymchwiliadau safle i ganfod a oedd tir yn rhydd rhag unrhyw halogion. Bu'n helpu i weithredu gwahanol fathau o beiriannau, o dan oruchwyliaeth ei fentor, ac yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus, fel Cyfoeth Naturiol Cymru.

Amcanion Jamil wrth fanteisio ar y cyfle hwn oedd ennill profiad o weithio mewn amgylchedd ffurfiol er mwyn datblygu ei broffesiynoldeb yn y gweithle, deall y gwahanol dasgau a chynllunio'r gofynion cyn cynnal ymchwiliadau safle, a bod yn rhan o brosiect a allai feithrin ei gyfres o sgiliau. Disgrifiwyd Jamil gan ei gyflogwr fel 'bachgen ifanc sy'n gweithio'n galed, yn frwdfrydig ac yn hoffus', ac roedd hi'n glir bod Jamil wedi creu argraff dda iawn.

Yn wir, bu profiad Jamil mor lwyddiannus fel y cynigiodd ei gyflogwr rôl ran amser iddo ochr yn ochr â'i astudiaethau ar ôl cwblhau'r profiad gwaith. Yn ogystal â hynny, cynigiwyd rôl amser llawn iddo ar ôl graddio, i gychwyn ar ôl cwblhau ei gwrs ym mis Gorffennaf 2022.

“Rhoddodd GO Wales gyfle i mi, cyfle gwych! Anaml iawn yr ydw i wedi cael unrhyw amser rhydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac rydw i wastad wedi teimlo fy mod ar ei hôl hi. Fy argymhelliad i yw y dylid manteisio ar unrhyw gyfle a gynigir. Rhoddais gynnig ar GO Wales heb ddisgwyl rhyw lawer. Cynigiwyd Terra Firma imi, cwmni gwych sydd wedi rhoi cyfleoedd di-rif i mi. Am unwaith rwy'n teimlo ar y blaen, heb fod yn rasio ar ôl unrhyw beth ond yn canlyn llwybr at ddyfodol gwell".Jamil Khan, cyfranogwr GO Wales

Roedd profiad Jamil ar raglen GO Wales wedi bod yn gyfle i archwilio llwybrau gyrfa posibl, ond drwy'r profiad cafodd gadarnhad mai daearyddiaeth amgylcheddol oedd y dewis cywir ar ei gyfer. Yn sgil y cyfle, cafodd addewid am swydd ar ôl graddio, a fydd yn adeiladu ar sgiliau sydd ganddo eisoes ac yn cynnig cyfleoedd pellach i ddatblygu, gan ei alluogi i fod yn gwbl annibynnol o'r cychwyn cyntaf.

"Mae Jamil wedi gwneud cryn ymdrech i gyflawni ei amcanion drwy gysgodi gwahanol aelodau o’r tîm."
"Cwblhaodd astudiaethau desg amrywiol er mwyn deall beth oedd ei angen cyn cynnal ymchwiliadau safle, a bu'n helpu'r tîm i ganfod atebion i'r problemau yr oeddent yn eu wynebu'n gysylltiedig â halogi."

Claire Bailey - Biowyddoniaeth Ceffylau a Milfeddygol

Roedd Claire ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Gradd Biowyddoniaeth Ceffylau a Milfeddygol pan ymunodd â rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith GO Wales. Mae Claire wedi ymddieithrio oddi wrth ei theulu ac yn byw gydag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, anhwylder personoliaeth ffiniol, ac anhwylder straen wedi trawma cymhleth. Oherwydd hynny, tybiai fod gormod o rwystrau iddi symud ymlaen â'i gwaith astudio a meddwl am brofiad gwaith. Gan fod cwrdd â phobl newydd a gweithio mewn grwpiau mawr yn cynyddu gorbryder Claire, roedd y syniad o weithio gyda cheffylau yn yr awyr agored yn apelio'n fawr ati.

Darllen mwy...

Trefnodd tîm GO Wales brofiad gwaith i Claire gyda Tim Vaughan Racing, cyfleuster rasio ceffylau o'r radd flaenaf yn Ne Cymru, a oedd yn cynnwys practis milfeddygol ar y safle. Roedd ei dyletswyddau'n cynnwys dod i ddeall hanfodion beunyddiol rheoli stablau rasio, helpu i roi gofal ymarferol i'r ceffylau rasio, a sicrhau bod y stablau'n cael eu cadw'n lân. Cafodd Claire hefyd gyfle i ddysgu mwy am ochr busnes y byd rasio, ac roedd hi'n gobeithio creu cysylltiadau o fewn y diwydiant. Yn ogystal â hynny, roedd Claire yn gobeithio y byddai'r cyfle yn rhoi hwb i'w hyder yn gyffredinol.

Nid oedd y profiad heb ei heriau, yn enwedig oherwydd y pellter o'r brifysgol, felly roedd angen i Claire aros yn llety'r stablau. Roedd tîm GO Wales hefyd wedi rhoi cynllun ar waith i gadw mewn cysylltiad â Claire, ac wedi cysylltu ag Ymarferydd Llesiant y Brifysgol i drefnu cymorth ychwanegol iddi yn ystod y pythefnos o brofiad gwaith.

Aeth diwrnod cyntaf Claire yn dda, ond yn anffodus roedd yr her o gael swydd amser llawn, a oedd yn feichus yn gorfforol wedi gadael Claire yn teimlo'n flinedig iawn, ac roedd hi’n profi anawsterau â'i iechyd meddwl. Roedd cynghorydd Claire yn pryderu am ei lles, felly awgrymodd y dylai weithio bob yn ail ddiwrnod, gan roi amser iddi orffwyso. Roedd cyflogwr Claire yn fwy na pharod i dderbyn y newid hwn i'r patrwm gwaith, a bu hynny o gymorth iddi gwblhau'r pythefnos o brofiad gwaith yn llwyddiannus. Drwy'r cyfle, cafodd Claire brofiad ymarferol o weithio gyda milfeddygon ceffylau, ac arsylwi triniaethau milfeddygol, fel defnyddio endosgop i archwilio tracea ceffyl ac adnabod tystiolaeth o waedlif. Cadarnhaodd y profiad uchelgais Claire i weithio mewn practis milfeddygaeth ceffylau.

Roedd adborth Claire yn llawn canmoliaeth am y rhaglen a'r cyfle, a chyfaddefodd “ar adegau roeddwn i'n teimlo y byddai fy mhrofiad gwaith yn dod i ben oherwydd fy iechyd meddwl, ond gyda chefnogaeth dros y ffôn roeddwn i'n gallu fy nghodi fy hun i fyny a chario ymlaen. Alla i ddim ond canmol Tîm GO Wales - mae pob aelod o'r tîm wedi bod yn wych wrth fy nghefnogi drwy'r profiad hwn. Fyddwn i erioed wedi cael y cyfle hwn, oni bai am dîm GO Wales. Roedd yn gyfle unwaith mewn oes i wneud hyn".

"Cefais ddiwrnodiau gwych gyda'r milfeddygon a chael cyfle i arsylwi a chynorthwyo wrth iddyn nhw olchi codau'r gwddf, olchi'r tracea, cymryd swab o'r trwyn, sganio'r tendonau a gwerthuso cloffni"
"Roeddwn i'n rhyfeddu at gost rhai o'r ceffylau ar yr iard. Roedd cael gafael mewn ceffyl gwerth £250,000 yn sobri rhywun braidd"

Julia Bransby - Animeiddio

Roedd Julia yn astudio animeiddio pan ymunodd â Rhaglen GO Wales ym mis Mai 2019. Mae Julia wedi derbyn diagnosis Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), felly roedd hi'n ei chael hi'n anodd rhyngweithio â chyfathrebu â phobl, yn enwedig mewn lleoliad ffurfiol. Gallai amgylcheddau swnllyd a phrysur, fel swyddfeydd, gynyddu lefelau straen Julia. Ar ben hynny, roedd Julia yn teimlo bod ei hamhariad cymdeithasol yn effeithio ar ei gallu i gynllunio'n effeithiol.

Darllen mwy...

Ar ôl i Julia ymuno â'r rhaglen, cyfarfu â chynghorydd GO Wales sawl gwaith i archwilio'r meysydd a oedd o ddiddordeb iddi a thrafod cyfleoedd posibl am brofiad gwaith. Fodd bynnag, daeth y cynlluniau profiad gwaith cychwynnol a sicrhawyd i Julia i ben yn sydyn yn sgil pandemig COVID-19. Er gwaethaf yr anffawd hon, parhaodd i gymryd rhan yn y prosiect yn rhithiol drwy gydol y cyfnod clo er mwyn ceisio cael profiad gwaith.

Ar ôl llacio cyfyngiadau'r cyfnod clo, llwyddodd ei chynghorydd i gael hyd i gyfle blas ar waith rhithiol i Julia gyda Gŵyl Animeiddio Caerdydd, i gwblhau fideo wedi'i animeiddio. Er bod gweithio'n rhithiol yn creu heriau i Julia, o ran dod i adnabod pobl o bell, a felly meithrin perthnasoedd proffesiynol, yr oedd hefyd yn cynnig cyfleoedd i Julia drwy gael gwared â rhwystrau a allai fod wedi codi pe bai'r cyfle wedi'i leoli mewn swyddfa go iawn. Nid oedd rhaid i Julia boeni am synau uchel annisgwyl, er enghraifft, a allai fod yn anodd iddi ymdopi â nhw mewn amgylchedd anghyfarwydd. Bu hyn hefyd yn fodd i Julia ddatblygu ei sgiliau digidol, cymdeithasol a gwaith tîm drwy ddefnyddio dulliau eraill o gyfathrebu, fel Zoom, Messenger a G-Mail, i rannu syniadau, derbyn adborth ac anfon a derbyn dogfennau a ffeiliau.

Yn ystod y lleoliad, llwyddodd Julia i gydweithio â'r tîm i greu fideo byr wedi'i animeiddio. Pwrpas y fideo oedd annog cynulleidfaoedd i lenwi ffurflenni adborth ar ôl digwyddiadau fel gweithdai. Roedd y prosiect o natur greadigol, a oedd yn ei galluogi i gymhwyso ei sgiliau animeiddio yn uniongyrchol.

Datblygodd Julia hefyd sgiliau hanfodol eraill yn ystod y blas ar waith, fel rheoli amser, a hunanfyfyrio ar ei pherfformiad a'i hymddygiad ei hun. Dysgodd Julia sut i negodi a chyfaddawdu mewn modd cadarnhaol a phroffesiynol â chleientiaid ynghylch briffiau dylunio a gwahaniaeth barn neu syniadau, agwedd ar ei phrofiad gwaith yr oedd Julia yn ei hystyried fel yr her fwyaf.

Roedd hyder Julia wedi cynyddu yn dilyn y cyfle rhithiol, ac aeth ati i gynllunio i gwblhau ei hastudiaethau mewn MDes Animeiddio. Cafodd Julia hefyd adborth cadarnhaol oddi wrth y cyflogwr, a roddodd anogaeth i Julia y gallai cyfleoedd godi iddi gyflawni gwaith tebyg yn y dyfodol. Helpodd ei phrofiad cadarnhaol iddi ganfod gyrfa yr oedd hi'n awyddus i'w chanlyn. Roedd y cyfle wedi'i galluogi i greu cysylltiadau â rhwydweithiau yn y diwydiant animeiddio, a fydd yn fuddiol iddi wrth geisio cael swydd yn y dyfodol.

"Mae'r cynghorydd wedi bod yn barod iawn i gyfathrebu, ac wedi gallu cael hyd i leoliad gwaith imi sy'n cyd-fynd â'm set sgiliau"
"Rwy’n hyderus bod gen i strategaeth ar waith i gynyddu fy mhotensial er mwyn cael swydd yn y dyfodol"

Freya Smith – Ffilm a Theledu

Ymunodd Freya â Rhaglen GO Wales ym mis Ebrill 2019, ac roedd hi'n awyddus i gael profiad gwaith yn y byd animeiddio neu ddylunio. Roedd hi'n wynebu diagnosis tebygol o anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, yn ychwanegol at anhwylder prosesu gweledol, anhwylder cysgu ac iselder. Roedd anhwylderau Freya yn cyfrannu at gynyddu ei lefelau pryder a dechreuodd deimlo'n gyndyn o drefnu ei phrofiad gwaith ei hun gan ei bod hi mor anodd rhagweld eu symptomau. Ar y pryd nid oedd Freya wedi'i hargyhoeddi y byddai man gwaith addas yn darparu ar gyfer ei chyflyrau amrywiol.

Darllen mwy...

O'u cysylltiadau blaenorol ag AberInnovation, roedd cynghorwyr GO Wales yn Aberystwyth yn ymwybodol bod y sefydliad yn chwilio am Ddylunydd Graffeg. Daeth Freya i'w meddyliau'n syth, a threfnwyd cyfarfod rhithiol cychwynnol rhwng Freya a'r cyflogwr. Ar ôl adolygu portffolio Freya o'r dyluniadau a greodd yn ystod ei chwrs gradd Ffilm a Theledu, esboniodd y cyflogwr beth oedd natur gwaith y cwmni a rhannodd enghreifftiau o ddyluniadau i ddangos y ffiniau yr oedd y cwmni yn gweithio oddi mewn iddynt.

Yn dilyn llwyddiant y cyfarfod cychwynnol hwn, cynigiodd AberInnovation gyfle drwy GO Wales i Freya gael blas ar y gwaith, gan weithio o bell am wythnos i gynhyrchu amryw o ddyluniadau gwahanol. Roedd y cyfle hwn i'r dim i Freya, oherwydd gallai weithio'n hyblyg heb fod dan bwysau i weithio oriau penodol. Bu modd i Freya gynllunio ei gwaith drwy ystyried ei phatrymau cysgu, a nodi pryd y gallai fod yn fwyaf cynhyrchiol yn ystod y dydd, sef adegau o'r dydd a oedd fel arfer y tu allan i oriau swyddfa arferol. Drwy weithio gartref, roedd Freya hefyd mewn amgylchedd cyfarwydd a diogel lle gallai ymgysylltu'n broffesiynol o bell. Roedd y cyflogwr yn llwyr ymwybodol o gyflyrau ac anghenion Freya, a rhoddodd gymorth iddi drwy ganfod a chael gwared ag unrhyw rwystrau a allai fod wedi atal Freya rhag manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn am brofiad gwaith.

Gobeithiai Freya y byddai'r blas hwn ar waith yn fodd iddi greu rhwydwaith o gysylltiadau proffesiynol, yn ogystal â datblygu ei sgiliau dylunio graffeg. Agwedd arall bwysig oedd bod Freya eisiau cynyddu ei hyder. Yn ystod y cyfnod blasu, llwyddodd i ddylunio amryw o weithiau graffeg i AberInnovation, ac mae ei hadborth am y profiad yn dangos sut y llwyddodd i gyflawni ei hamcanion gwreiddiol.

Cafwyd cydnabyddiaeth o gryfderau Freya hefyd yn adborth y cyflogwr, gan ei disgrifio fel: "Rhywun hawddgar, cwrtais, derbyngar, parod a phrydlon iawn"

Bu'r profiad rhithiol hwn yn fodd i Freya weld posibiliadau gwaith hunangyflogedig, gyda'r fantais o allu dewis a dethol gwaith yn ôl yr hyn a oedd o ddiddordeb iddi, a'r rhyddid i benderfynu ar ei horiau gwaith ei hun, i gyd-fynd â heriau bywyd bob dydd. Wedi i Flas ar Waith GO Wales Freya ddod i ben, cynigiodd AberInnovation gontract hunangyflogedig i barhau i weithio fel Dylunydd Graffeg, a derbyniodd Freya y cynnig. Mae'r cyfle hwn yn golygu y gall Freya fynd ar drywydd gwaith arall hunangyflogedig i raddedigion, a pharhau i adeiladu ei phortffolio.

"Cynyddodd fy hyder yn fawr drwy gydol yr wythnos, er bod lle i hynny wella o hyd. Dyma oedd fy her fwyaf"
"Llwyddais i greu cysylltiadau a arweiniodd at gael swydd yn ddiweddarach. Dysgais sgiliau technegol, a dysgu mwy am ddylunio graffeg yn ogystal â rhyngweithio ym myd busnes"

Viktoria – Gwyddorau Biolegol

Gwyddai Viktoria ei bod am weithio gydag anifeiliaid mewn rhyw ffordd ond nid oedd wedi cael llawer o brofiad gwaith ac nid oedd yn sicr pa lwybr gyrfa yr oedd am ei ddilyn pan gysylltodd â thîm GO Wales ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Darllen mwy...

Roedd Viktoria yn ei chael yn anodd siarad yn hyderus â phobl, nid oedd yn cydnabod ei sgiliau na'i chryfderau, ac roedd ganddi hunanhyder isel ac arwyddion o orbryder; ni theimlai'n barod i gysylltu ag unrhyw gyflogwyr heb gymorth ei chynghorydd GO Wales. Roedd Viktoria yn awyddus i gael cymaint o brofiad o weithio gydag anifeiliaid ag y gallai er mwyn datblygu ei sgiliau a'i gwybodaeth a deall ei dewisiadau gyrfa.

Gwnaeth y cynghorydd GO Wales drefnu sesiwn flasu yn Sw Mynydd Cymru, lle gallai Viktoria gael profiad o rôl ceidwad sw. Gweithiodd gydag adar, arsylwodd ddeintyddiaeth ceffylau, a dysgodd lawer am ofalu am anifeiliaid gwyllt, gan gynnwys presenoldeb geiriol a dieiriau o amgylch anifeiliaid. Gwnaeth y profiad gwaith ei galluogi i gyflawni ei hamcanion o ran meithrin gwell dealltwriaeth o rôl ceidwad y sw, magu hyder yn gweithio mewn amgylcheddau newydd a datblygu sgiliau gweithio mewn tîm

Er bod y cyfle hwn wedi bod o fudd i Viktoria, roedd hithau a'i chynghorydd yn teimlo bod rhai meysydd yr oedd angen iddi eu datblygu o hyd er mwyn goresgyn ei gorbryder yn y gweithle. Felly, trefnodd y cynghorydd leoliad pellach mewn practis milfeddyol, lle gallai Viktoria gysgodi nyrsys milfeddygol ac arsylwi ar y ffordd y caiff practis ei redeg. Yn dilyn llwyddiant y cyfle cysgodi hwn, roedd y cyflogwr yn awyddus i gynnig cyfle hirach i Viktoria gan ei bod yn ennill mwy o brofiad yn gweithio gydag anifeiliaid anwes ac yn ennyn gwell dealltwriaeth o waith milfeddygol. Roedd yr adbdorth gan Daleside Vets yn gadarnhaol iawn: "Dangosodd Viktoria ddigon o gymhelliant o'r cychwyn ac roedd bob amser yn edrych am dasgau i'w cwblhau."

Llwyddodd Viktoria i fagu mwy o hyder yn y gweithle a datblygu strategaethau ar gyfer goresgyn rhwystrau, ac i wneud penderfyniad ar ei llwybr gyrfa yn y dyfodol. Yn ystod ei hamser ar y rhaglen, fe'i henwebwyd ar gyfer gwobr Arweinwyr y Dyfodol, menter gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, i gydnabod y foeseg gwaith a ddangosodd ar raglen GO Wales.

Ers iddi adael rhaglen GO Wales, mae Viktoria wedi llwyddo i gael swydd ran-amser fel Nyrs Milfeddygol Cynorthwyol. Eglurodd ei bod wedi gwneud cais am y rôl hon am ei bod yn teimlo bod ei phrofiad, ei hyder a'i gwybodaeth wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan yn rhaglen GO Wales.

"Dangosodd Viktoria ddigon o gymhelliant o'r cychwyn ac roedd bob amser yn edrych am dasgau i'w cwblhau”
Cafodd Viktoria ei henwebu ar gyfer gwobr Arweinwyr y Dyfodol, menter gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, i gydnabod y foeseg gwaith a ddangosodd ar raglen GO Wales

Diya - Mathemateg

Roedd Diya ar flwyddyn gyntaf ei chwrs gradd Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd pan gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf i raglen GO Wales. Mae Diya yn hanu'n wreiddiol o Dde Orllewin Llundain, ac fe brofodd amgylchiadau anodd cyn mynd i'r Brifysgol a olygodd ei bod wedi ymddieithrio o'i theulu. Roedd hyn wedi'i gwneud hi'n anodd iddi drefnu profiad gwaith.

Darllen mwy...

Roedd Diya yn awyddus i fanteisio i'r eithaf ar ei chyfnod yn y Brifysgol, yn enwedig drwy wella ei chyflogadwyedd gyda chymorth GO Wales. Doedd ganddi ddim unrhyw syniadau pendant ynghylch gyrfa, ond roedd hi am gael profiad gwaith mewn maes a oedd yn gysylltiedig â'i chwrs Mathemateg. Rhoddodd cynghorwyr GO Wales ym Mhrifysgol Caerdydd y gefnogaeth a'r arweiniad yr oedd ar Diya ei angen wrth archwilio amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol. Cafodd hefyd gymorth i ystyried pa fath o brofiad gwaith a fyddai'n ei gwneud hi'n fwy cyflogadwy ym maes rhifedd.

Cafodd Swyddogion Prosiect GO Wales hyd i gyfle am brofiad gwaith fel Cynorthwyydd Cyllid yng Ngwasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Caerdydd, lle llwyddodd i fynychu lleoliad 10 diwrnod hyblyg wedi'i drefnu o amgylch ei hastudiaethau academaidd. Datblygwyd y rôl i roi dealltwriaeth iddi o'r rolau a geir mewn Adran Gyllid; rhoddodd hefyd gyfle iddi ennill profiad ym maes gweinyddu cyllid a dealltwriaeth o ofynion gweithredol a gwasanaethau cwsmeriaid. Roedd Diya yn gobeithio y byddai'r profiad gwaith yn gyfle i "feithrin hunanhyder mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, a hefyd drwy sgwrsio â phobl mewn ystod o rolau yn yr adran, fel cyfrifwyr a swyddogion cyllid".

Mwynhaodd Diya ei lleoliad a dywedodd ei bod wedi ennill hyder mewn amgylchedd swyddfa ac wedi dod i ddeall yr adran a'r rolau a oedd yn gysylltiedig â swyddi. Dywedodd hefyd ei bod wedi gweld sut roedd cydweithwyr yn cydweithio i gwblhau tasgau a bod ei hyfedredd a'i diddordeb yn y tasgau a gyflawnodd ar leoliad wedi cynyddu.

Yn dilyn y profiad gwaith, dywedodd Diya ei bod yn fwy hyderus bod ganddi fwy o brofiad gwaith yn gysylltiedig â gyrfa. Roedd hi wedi ehangu ei rhwydwaith o fewn y maes i'w galluogi i ganfod mwy o brofiad gwaith yn y dyfodol, ac roedd hi hefyd wedi dod i ddeall strategaethau er mwyn goresgyn rhwystrau personol, ac wedi datblygu dealltwriaeth well o strategaethau ar gyfer goresgyn rhwystrau personol yn y gwaith. Yn dilyn cyfarfod adolygu â'i Swyddog Prosiect GO Wales, cytunodd Diya i wneud cais am interniaeth drwy dîm Profiad Gwaith Prifysgol Caerdydd, a llwyddodd i sicrhau lleoliad wyth wythnos gyda thâl yn Asiant Gosod Tai Pinnacle yng Nghaerdydd.

Yn dilyn hynny, mae Diya wedi bod yn siarad am ei phrofiadau â myfyrwyr eraill, ac aeth gyda thîm GO Wales i Fanceinion i arddangos rhaglen GO Wales yng Nghynhadledd AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Service).

"Drwy'r lleoliad profiad gwaith a gefais rydw i wedi cael cipolwg rhagarweiniol buddiol o'r byd gwaith, ac mae hynny wedi fy ysgogi i chwilio am fwy o gyfleoedd am brofiad gwaith"
“Mwynheais fy lleoliad profiad gwaith ar y cyfan, a phe bawn yn cael cyfle i weithio yma eto, byddwn yn gwneud hynny"

Miles - Cyfathrebu a Dylunio Gwe

Roedd Miles ar ei flwyddyn gyntaf yn astudio gradd Cyfathrebu a'r Cyfryngau pan glywodd am y cyfleoedd yr oedd GO Wales yn eu cynnig. Roedd Miles yn gymwys i dderbyn cymorth, gan fod pob myfyriwr o gefndir BME sy'n profi anawsterau iechyd meddwl wedi wynebu mwy o rwystrau wrth gael eu derbyn i addysg uwch neu brofiad gwaith yn y gorffennol.

Darllen mwy...

Yn eu cyfarfod cyntaf, bu Miles a'i Gynghorydd o GO Wales yn trafod ei opsiynau. Cyfaddefodd Miles ei fod yn teimlo'n isel a bod ei iechyd meddwl yn amrywio, a phenderfynodd y ddau y byddai cyfle hyblyg i gysgodi gweithiwr yn fan cychwyn da. Roedd Cynghorydd Miles yn GO Wales yn awyddus i ganfod cyflogwr a fyddai'n hyblyg ac yn cefnogi ei anghenion, ond a fyddai'n cynnig cyfle a oedd yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'i radd.

Manteisiodd Miles ar gyfle i gysgodi gweithiwr yn yr adran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu'r cyfle i gysgodi gweithiwr yn hynod lwyddiannus, ac fe gafodd Miles a Phrifysgol Aberystwyth adborth ardderchog.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith cysgodi hwn, roedd Miles yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth mwy heriol, ac roedd ganddo ddiddordeb mewn cyfathrebu drwy ddatblygu'r we.

Cynigiodd Menter Aberteifi leoliad gyda thâl i Miles am chwe wythnos dros yr haf. Yn ystod ei leoliad, bu Miles yn cefnogi'r tîm drwy wella'u platfform gwe, mudo data, ymchwil a marchnata. Llwyddodd Miles i ennill profiad o weithio mewn sawl lleoliad gan fod Menter Aberteifi yn fodlon iddo weithio o bell.

Wrth fyfyrio ar y gefnogaeth a gafodd drwy gynllun Cyflawni drwy Brofiad Gwaith GO Wales, mae Miles o'r farn fod ganddo brofiad gwaith sylweddol i fanteisio arno ac mae ei hyder wedi cynyddu. Mae Miles hefyd wedi datblygu nifer o gysylltiadau a fydd o fudd gwirioneddol iddo mewn swydd ar ôl iddo raddio yn y dyfodol.

Gallwch gyrchu'r prosiect a gwblhawyd gan Miles drwy fynd i wefan 'Dewch i Aberteifi'.


"Rwy'n credu fy mod wedi cyflawni'r amcanion dysgu a osodais i mi fy hun cyn dechrau'r lleoliad. Rwy'n credu bod y cyfle i gysgodi gweithiwr wedi cynyddu fy hyder yn y byd gwaith."
"Agwedd fwyaf boddhaus fy mhrofiad gwaith oedd gallu cyfrannu at adeiladu gwefan fydd yn cael ei gwneud yn wefan fyw go iawn."

Sarah - Gweithiwr Cefnogi

Pan oedd Sarah ar ei blwyddyn olaf yn astudio BSc Seicoleg, roedd hi'n poeni sut y byddai'n gallu ennill y profiad yr oedd ei angen i ganlyn gyrfa mewn niwrowyddoniaeth. Roedd hi'n profi lefelau uchel o bryder mewn sefyllfaoedd newydd ac wrth gymdeithasu, a gysylltir â'i Syndrom Asperger.

Darllen mwy...

Yn y gorffennol byddai Sarah yn osgoi siarad am y Syndrom am ei bod yn poeni am gael ei labelu. Fodd bynnag, bu'n trafod y ffactorau oedd yn sbarduno ei phryder â'i Chynghorydd GO Wales, a'r modd yr oedd yn rheoli ac yn ymateb i straen. Bu hyn yn ddefnyddiol wrth gynllunio sut i reoli rhai gweithgareddau yn ystod ei phrofiad gwaith.

Cysylltodd Cynghorydd Sarah yn GO Wales â Headway, sy'n gweithio gyda phobl sy'n gwella ar ôl cael niwed i'w hymennydd. Roedd y cyflogwyr yn fodlon cynnal lleoliad. Cawson nhw wybod am ddiagnosis Sarah, ac roedden nhw'n awyddus i gwrdd â hi.

Bu Sarah yn gweithio gyda'i Chynghorydd i wella ei CV ac i drefnu'r cyfarfod cyntaf â Headway. Cafodd gyfarfod â rheolwr a chydgysylltydd hyfforddwyr Headway a oedd yn gefnogol iawn, ac a roddodd hyder iddi siarad yn agored am ei phryder. Cymerwyd amser i wneud trefniadau a fyddai'n ei galluogi i deimlo'n gyffyrddus, a hefyd yn rhoi cyfleoedd iddi ei herio ei hun.

Cafodd Sarah gefnogaeth ei chyflogwr a'i Chynghorydd GO Wales drwy gydol y profiad gwaith, fu'n llwyddiant mawr. Tyfodd ei hyder ac roedd hi'n awyddus i symud ymlaen i leoliad blasu gwaith. Parhaodd gyda Headway am yr haf cyfan, ac ar ddiwedd y flwyddyn enillodd Wobr Headway am Wirfoddolwr y Chwarter. Dywedodd y cyflogwr:

“Mae hi wedi bod yn fraint i bawb ohonom yn Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru gael bod yn rhan o daith Sarah. Roedd hi'n ofni'r anghyfarwydd i ddechrau, ond yn raddol dechreuodd Sarah gael ei chefn ati. Gwnaethom ei chyflwyno'n raddol i weithio gydag unigolyn penodol am ychydig o sesiynau, a thrwy wneud hynny dechreuodd Sarah ennill mwy o hyder wrth iddi adlewyrchu gweithredoedd ac ymddygiad y staff a'r gwirfoddolwyr. Bellach mae Sarah yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol ac erbyn hyn yn cael ei hystyried yn weithiwr cymorth gwirfoddol gwerthfawr y mae eraill yn ymddiried ynddi.”

Ers gadael y Rhaglen, mae Sarah wedi parhau i wirfoddoli gyda Headway ac yn ymgeisio am radd Meistr Niwrowyddoniaeth.


"Roeddwn i'n nerfus ynghylch cymryd rhan yn rhaglen GO Wales i ddechrau, ond rwy'n falch fy mod i wedi gwneud."
"Roedd fy Nghynghorydd o gymorth mawr wrth baratoi am fy lleoliad ac wrth ganfod unrhyw broblemau y gallwn eu profi, felly doeddwn i ddim yn teimlo mor bryderus yn mynd i Headway ag y bydden i wedi gwneud heb y gefnogaeth honno."

Liz - Darlunio

Mae Liz yn frwdfrydig am ddilyn gyrfa mewn darlunio, yn benodol mewn llyfrau i blant, ac fe ymunodd â'r rhaglen GO Wales ar ddiwedd yr ail flwyddyn o'i gradd. Mae cael diagnosis o syndrom Asperger ac yn dioddef o orbryder a phyliau o banig wedi gwneud dysgu a chyfathrebu yn heriol i Liz, am ei bod yn teimlo fel nad oedd hi’n gallu gwneud cyswllt llygad ac yn aml yn teimlo fel bod embaras arni wrth siarad. Roedd hi'n teimlo bod hyn, ynghyd â’i chael yn anodd mynd i leoedd newydd ac ymateb i newid ar fyr rybudd, yn ei rhwystro rhag cael cyflogaeth yn y dyfodol ac roedd hi'n pryderu ynghylch cyflogwyr yn deall ei hanghenion.

Darllen mwy...

Roedd y cynghorydd GO Wales yn gallu helpu a chefnogi Liz i baratoi ar gyfer profiadau newydd a cheisio lleihau'r straen y byddai Liz yn ei deimlo wrth fynd i mewn i’r gweithle. Cymerodd Liz ran mewn lleoliad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithio ar brosiect darlunio i ddatblygu delweddau i hyrwyddo prosiect GO Wales. Roedd y cyfle wedi'i leoli ar gampws gwahanol i’r un lle roedd Liz yn astudio, felly roedd hi'n gallu rhoi her i'w hunan i fynd i amgylchedd newydd a chwrdd â phobl newydd, a oedd yn unol â'r amcanion yr oedd hi wedi eu gosod i’w hunan cyn y profiad gwaith. Rhoddodd y cynghorydd GO Wales fideo cyfarwyddo wedi’i recordio i Liz o'r campws i helpu rheoli straen Liz wrth fynd i leoliad newydd.

Elwodd Liz yn fawr o'r profiad hwn a dysgodd sut y byddai cyflogwyr yn gallu diwallu ei hanghenion. Roedd y rhain yn cynnwys diwrnod gwaith byrrach er mwyn mynd i'r afael â blinder, trefnu ystafell gyfarfod i sicrhau bod lleoliad tawel ar gael, a defnyddio clustffonau a oedd yn gwaredu ar sŵn er mwyn sicrhau na fyddai'r amgylchedd yn gosod galwadau ar y synhwyrau ac i leihau'r potensial ar gyfer unrhyw orbyrder a achosir gan sŵn. Roedd hi'n gallu rheoli nifer y bobl newydd roedd hi'n cyfarfod â nhw, roedd yn cymryd y cyfle i ymarfer technegau cyswllt llygad, ac roedd yn cadw log tystiolaeth drwy ei blog o'r hyn a aeth yn dda a meysydd i'w gwella i'w helpu i ddatblygu ei hyder. Datblygodd Liz berthynas ymddiriedus gyda’i chynghorydd drwy'r broses.

Roedd y rheolwr tîm yn ystod ei lleoliad profiad gwaith yr un mor falch o ran y cyfle:

"Ymatebodd yn gadarnhaol iawn i fewnbwn i'w dyluniadau oddi wrth ein staff ac roedd hi'n hyblyg iawn ac yn barod iawn ei chymwynas.”Roedd y fyfyrwraig yn gweithio'n dda iawn dan bwysau ac i derfyn amser.Gwnaeth hi weithio’n dda o ran siarad ag aelodau'r tîm a gwneud cyswllt llygad.Ar y cyfan, gwnaeth argraff fawr arnom – aeth hi gam ymhellach na'r hyn a ofynnwyd iddi."

Gwnaeth Liz gynnwys ei gwaith celf o fewn postiad blog yn ogystal â'i chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a defnyddiwyd y llun a ddewiswyd at ddibenion marchnata i hyrwyddo GO Wales yn narlithoedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae lluniau Liz hefyd wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo astudiaethau achos ar wefan GO Wales.

"Mae wedi bod yn gyfle da iawn wrth fy helpu i dyfu mewn hyder a hunan-fri o ran cael blas ar fywyd gwaith a chyfathrebu â phobl eraill"
"Mae fy sgiliau ymchwil annibynnol a'm sgiliau creadigol yn gwella’n raddol o ganlyniad i'r sesiynau un i un gyda'r cynghorydd."

Harvey - Ynni Adnewyddadwy

Roedd Harvey ym mlwyddyn gyntaf ei radd mewn Ffiseg pan gafodd ei gyswllt cyntaf â Thîm GO Wales. Roedd byw gyda dyslecsia a dyspracsia a bod ag anhwylder prosesu clywedol a gweledol ar y cyd wedi gwneud dysgu a chyfathrebu ysgrifenedig yn her i Harvey, ac roedd yn derbyn cymorth oddi wrth ei fentor yn y brifysgol i'w helpu i reoli ei fywyd academaidd. Roedd yn teimlo nad oedd yn gallu cysylltu â chyflogwyr a threfnu ei brofiad gwaith ei hunan a gofynnodd am gymorth gan GO Wales.

Darllen mwy...

Roedd gan Harvey ddiddordeb mewn gyrfa ym maes ynni adnewyddadwy neu niwclear, a chysylltodd cynghorydd GO Wales Harvey â Gorsaf Bŵer Rheidol Statkraft, gorsaf bŵer a oedd yn arbenigo mewn ynni adnewyddadwy gyda ffocws ar bŵer y gwynt a phŵer trydan dŵr, er mwyn cynnal profiad gwaith i Harvey. Darparodd Statktraft yr offer priodol i Harvey a darparodd y rhaglen yr esgidiau diogelwch fel y gallai Harvey gwblhau'r profiad gwaith. Roedd goruchwyliwr Harvey yn ymwybodol y gallai ei ddyspracsia olygu ei fod yn drwsgl ar adegau, ond cafodd gyfarwyddiadau llawn ynghylch iechyd a diogelwch ac nid oedd y cyflogwr yn rhagweld y byddai unrhyw broblemau. Gwnaeth gweithwyr Statkraft hyd yn oed helpu Harvey i gyrraedd y gweithle, gan ei fod wedi'i leoli mewn ardal anghysbell ar gyrion Aberystwyth.

Dysgodd Harvey amrywiaeth eang o brofiadau a sgiliau yn ystod ei brofiad gwaith, ac roedd yn gallu bod o gymorth i'r tîm mewn nifer o ffyrdd wrth weithredu a chynnal a chadw Cynllun Trydan Dŵr Rheidol. Roedd yn gallu cymhwyso'r wybodaeth a gafodd ei datblygu yn ystod ei radd Ffiseg i leoliad go iawn, a chafodd drosolwg o fodel busnes cynhyrchu trydan o ynni adnewyddadwy. Roedd y cyflogwr yn falch o berfformiad Harvey ar ei leoliad gwaith.

Roedd y lleoliad yn cynnig cyfle i Harvey brofi a fyddai diddordeb ganddo i barhau mewn unrhyw swyddi y dysgodd amdanynt, ac roedd yn ei alluogi i ddechrau adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau yn y maes hwn a fydd o ddiddordeb iddo mewn cyflogaeth yn y dyfodol.

"Dangosodd Harvey frwdfrydedd a diddordeb da ym mhob tasg ac roedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol mewn deall y cynllun trydan dŵr."
"Mae'n ddyn ifanc galluog a deallus a oedd yn gallu deall, yn ôl pob golwg, yr wybodaeth a roddwyd iddo yn ystod yr wythnos a chymhwyso'r wybodaeth i'r tasgau a roddwyd iddo."

Sophie - Dylunio Graffig

Roedd Sophie newydd gwblhau ei hail flwyddyn mewn cwrs gradd Darlunio yng Ngholeg Sir Gâr pan aeth Tîm GO Wales ati. Roedd ei dyslecsia a'i dyspracsia difrifol yn aml yn ei gwneud iddi deimlo wedi ymlâdd oherwydd yr egni ychwanegol yr oedd arni ei angen i gwblhau tasgau y byddai pobl eraill yn eu cwblhau yn ddidrafferth. Roedd ganddi ddiffyg hyder, nid oedd hi'n gwybod sut i werthu ei sgiliau i gyflogwyr posibl, ac roedd hi'n poeni y byddai ei hanableddau yn rhwystr i gyflogwyr.

Darllen mwy...

Roed rhaglen GO Wales yn ddelfrydol i Sophie i ennyn profiad gwaith perthnasol ac ystyrlon fel y gallai roi ei sgiliau mewn cyd-destun ym myd gwaith ac arddangos ei sgiliau mewn cyfweliadau posibl yn y dyfodol a gwella ei CV. Daeth Sophie a'i chynghorydd o hyd i leoliad gwaith addas gyda chylchgrawn Buzz yng Nghaerdydd, cyflogwr a oedd nid yn unig yn gefnogol ond a oedd yn gallu rhoi profiad ystyrlon i Sophie ym myd darlunio a dylunio graffig.

Roedd gorbryder Sophie ynghylch teithio i leoedd newydd a chostau teithio yn rhwystr sylweddol iddi. Fodd bynnag, roedd gwybod y byddai'r cyflogwr yn hyblyg o ran ei hamseroedd cyrraedd a gadael, cael cymorth parhaus oddi wrth gynghorydd GO Wales drwy gydol y lleoliad, a chael mynediad at arian i dalu costau teithio yn rhoi sicrwydd iddi, gan ei galluogi i gymryd rhan yn llawn yn y lleoliad.

Yn ystod y profiad gwaith, roedd Sophie yn gallu goresgyn rhwystrau roedd y lleoliad gwaith yn eu cyflwyno iddi. Ar y cychwyn, roedd y lleoliad profiad gwaith i fod i barhau am bum diwrnod. Fodd bynnag, gwnaeth cylchgrawn Buzz ei ymestyn am fis ychwanegol fel y gallai Sophie barhau i weithio o bell i’r cylchgrawn a pharhau gyda’i gwaith darlunio. Roedd y golygydd yn amlwg yn falch o ffordd Sophie o fynd ati yn y lleoliad.

Mae Sophie yn teimlo bod ei hyder wedi cynyddu y tu hwnt i’w disgwyliadau yn dilyn y lleoliad gyda chylchgrawn Buzz. Roedd hi'n teimlo'n dawelach ac yn fwy cyfforddus ynddi ei hunan yn y lleoliad gwaith a dysgodd fod holi cwestiynau perthnasol a derbyn adborth yn allweddol i gyflawni'r amcanion a osodwyd gan y cyflogwr.

Roedd hi wrth ei bodd hefyd fod y cyflogwr wedi derbyn y ffaith fod ganddi ddyslecsia ac nad oedd hyn yn cael effaith ar ei rhan yn y lleoliad gwaith. Dysgodd Sophie i gydnabod bod y ffordd mae ei hymennydd yn gweithio yn golygu ei bod yn greadigol ac yn gallu gweld pethau o safbwynt gwahanol, sy'n gryfder. Felly, erbyn hyn mae'n gallu mynegi ei hanabledd mewn ffordd gadarnhaol.

"Roedd y fyfyrwraig yn ardderchog. Bydd hi'n gallu cyfrannu at y cylchgrawn o hyn ymlaen fel darlunydd, ac mae'r hyn rydym wedi llwyddo i'w wneud yn edrych yn rhagorol."
Dysgodd Sophie i gydnabod bod y ffordd mae ei hymennydd yn gweithio yn golygu ei bod yn greadigol ac yn gallu gweld pethau o safbwynt gwahanol, sy'n gryfder.

Emily - Newyddiaduraeth

Roedd Emily ym mlwyddyn gyntaf gradd Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol De Cymru pan ddywedodd cynghorydd anabledd wrthi am y cyfleoedd sydd ar gael gan y rhaglen GO Wales. Roedd Emily yn wynebu rhwystrau i gael profiad gwaith a’i fynychu yn sgil anaf hirdymor i'w chefn a oedd yn cael effaith ar ei symudedd. Roedd yn amlwg y byddai rhaglen GO Wales yn gallu ei helpu i ennyn profiad yn y maes cystadleuol o newyddiaduriaeth hwn a'i helpu i ddatblygu mecanweithiau ar gyfer rheoli ei chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar waith mewn sefyllfa waith go iawn.

Darllen mwy...

Roedd Emily yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen oherwydd y byddai ganddi fynediad at brofiad gwaith hyblyg, cymorth un i un oddi wrth ei chynghorydd, a chymorth wrth chwilio am leoliadau a oedd yn addas i'w hanghenion unigol.

Gyda chymorth oddi wrth ei chynghorydd, roedd Emily yn gallu cael lle ar gwrs blas rhanbarthol, chwe diwrnod o hyd, ym maes newyddiaduriaeth, ac roedd hi'n gallu gwasgaru’r cwrs hwn dros gyfnod o chwe wythnos i gyd-fynd â’i hastudiaethau academaidd ac ymrwymiadau personol. Roedd y cyfle wedi’i leoli ym mhencadlys y South Wales Argus (rhan o'r Grŵp Gannet y DU). Roedd cyflwr Emily yn golygu bod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded am bellter hir yn anodd, felly roedd y cynghorydd yn gallu trefnu trafnidiaeth fel bod Emily yn gallu mynychu'r lleoliad.

Yn ystod y cwrs blas ar waith, roedd Emily yn gallu gwella ei sgiliau ysgrifennu a golygu ac ennyn gwell dealltwriaeth o rôl golygydd drwy gefnogi un i ddatblygu straeon ar gyfer cyhoeddiadau. Dysgodd hefyd sut roedd y papur newyddion yn gweithredu fel busnes.

Derbyniodd Emily adborth gwych ar ei gwaith a chafodd ei herthyglau eu cyhoeddi, gan gynnwys darn ar daith Cwpan yr FA o amgylch ysgolion Casnewydd, a gafodd ei ysgrifennu ar y cyd ganddi ac a oedd ar dudalen flaen y papur newyddion.

Roedd y lleoliad hwn yn llwyddiant mawr i Emily oherwydd rhoddodd gyfle iddi ymgymryd â phrofiad gwaith a’i helpodd i ddatblygu ei sgiliau a gwella ei CV, ac i greu erthygl a gafodd ei chyhoeddi mewn print ac ar-lein. Mae'r profiad hwn wedi caniatáu i Emily ddatblygu ei rhwydwaith proffesiynol ym maes newyddiaduriaeth am iddi gyfnewid manylion cyswllt gyda nifer o bobl y bu'n gweithio gyda nhw, a argymhellodd gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith yn y dyfodol mewn chwaer-gyhoeddiadau. Gwnaeth hyn i gyd gyfrannu at Emily yn datblygu ei gallu i gyfathrebu a gweithio gyda'r cyhoedd, a'i hyder yn gyffredinol.

“Es i allan gyda gohebwyr a phrofi sut beth fyddai swydd newyddiadurwr o ddydd i ddydd, a oedd yn foddhaus iawn.”
“Datblygais fy sgiliau ysgrifennu yn ogystal â sgiliau fy mhobl trwy gydol y profiad ac roedd y bobl yno ar y cyfan yn gyfeillgar a chroesawgar iawn.”
“Mae'r profiad hwn wedi caniatáu i Emily ddatblygu ei rhwydwaith proffesiynol ym maes newyddiaduriaeth am iddi gyfnewid manylion cyswllt gyda nifer o bobl y bu'n gweithio gyda nhw, a argymhellodd gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith yn y dyfodol mewn chwaer-gyhoeddiadau.”
Crëwyd y lluniau uchod gan gyfranogwr GO Wales Liz Dempsey.