Fe wnaeth myfyriwr israddedig a oedd yn astudio Ysgrifennu Creadigol ac yn uniaethu fel rhywun niwroamrywiol, anneuaidd a LHDTC+ ymgysylltu â GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr (sydd wedi’i frandio fel Cymorth i Baratoi Am Yrfa ym Mhrifysgol Aberystwyth), am eu bod yn ystyried bod eu diffyg profiad gwaith perthnasol a chysylltiadau cyfyngedig yn y diwydiant yn rhwystr i gyrraedd eu nod gyrfaol, sef dod yn awdur cyhoeddedig. Roedd y myfyriwr hefyd yn y broses o drawsnewid rhywedd, ac yn ofni y gallai eu cyflyrau iechyd meddwl gael effaith anffafriol ar eu cyflogadwyedd mewn diwydiant cystadleuol. A hwythau wedi ymgyflwyno â rhwystrau lluosog i gyflogaeth, fe wnaeth y tîm sicrhau’r myfyriwr y byddai digon o gyflogwyr sy’n hyderus o ran anabledd yn rhoi’r cymorth angenrheidiol yr oedd ar y myfyriwr ei angen yn y gweithle
Darllen mwy...Roedd ymgysylltiad y myfyriwr â chymorth yn ddwys, o ystyried y rhwystrau lluosog yr oeddent yn eu hwynebu, ac fe ymdriniodd yr ymgynghorydd â sawl maes o ran datblygu sgiliau, gan gynnwys: cymorth i ymgeisio am swyddi a lleoliadau; tiwtorialau ar blatfformau rhwydweithio proffesiynol; datblygu CV; datgelu grymusol; ac adnabod a gwella sgiliau presennol. Fe wnaeth y myfyriwr hefyd fynychu gweithdai niferus a gynhaliwyd ar y cyd gan y tîm Cymorth i Baratoi am Yrfa ac Ymgynghorwyr Gyrfaoedd. Hefyd, fe drefnodd yr ymgynghorydd sesiwn blas ar waith grŵp gyda thîm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth y brifysgol. Darparodd y myfyriwr adborth cadarnhaol am y cyfle, gan gadarnhau ei fod wedi goleuo’u hystyriaeth o ran llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Ar ben hynny, roedd y tîm Cymorth i Baratoi am Yrfa wedi darparu fforwm i’r myfyriwr ymgysylltu â chyd-fyfyrwyr eraill â diddordebau a nodau gyrfaol tebyg.
Rhoddodd y tîm flaenoriaeth i ganfod lleoliad â thâl ar gyfer y myfyriwr, ac yn dilyn cymorth helaeth gyda’r broses ymgeisio, llwyddodd y myfyriwr i gael lleoliad haf amser-llawn â thâl am bedair wythnos gyda thîm Hygyrchedd a Chynhwysiant y brifysgol fel Cynorthwyydd Prosiectau Haf y Gwasanaethau Myfyrwyr trwy gynllun cystadleuol ABERymlaen. Eto, darparodd y myfyriwr adborth cadarnhaol a oedd yn amlygu cyfraniad yr adran i gefnogi myfyrwyr â rhwystrau ychwanegol ac a oedd yn cydnabod y sgiliau, yr hyder a’r rhwydweithiau yr oeddent wedi’u datblygu yn ystod y lleoliad. Ers cwblhau’r lleoliad, mae’r myfyriwr wedi cyflwyno cais am rôl barhaol fel Tiwtor Sgiliau Astudio yn y tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant
Gyda help y Rhaglen Cymorth i Baratoi am Yrfa datblygodd y myfyriwr hyder i ymgymryd â chyflogaeth:
"Roedd y gwaith a wnaeth y myfyriwr dros bedair wythnos eu lleoliad yn amhrisiadwy. Fe wnaethant waith ymchwil ac ailwampio a golygu cyflwyniadau PowerPoint ar gyfer digwyddiadau, taflenni gwybodaeth a chreu canllawiau gweledol newydd sbon i roi cymorth i ymgyfarwyddo â’r campws a llety. Fe wnaethant ymdoddi’n rhwydd i’r tîm, gofyn cwestiynau ac roedd ganddynt lawer o allu i weithio’n annibynnol. Crëwyd argraff ar ein Pennaeth Adran gan elfennau o’u gwaith y mae ef yn credu y gellid eu cyflwyno i’r holl fyfyrwyr newydd.”
Dr Nicky Cashman, Ymgynghorydd Hygyrchedd Myfyrwyr."Byddwn i ar goll heb y cymorth parhaus"
“Rwyf wedi ennill hyder a sgiliau rheoli yn y rôl hon, ac rwy’n teimlo ei bod wedi fy helpu i ymgartrefu’n gysurus i amgylchedd gweithle, yn ogystal â’m galluogi i arfer fy sgiliau creadigrwydd a chymdeithasol”.
Roedd gan fyfyriwr niwroamrywiol a oedd yn astudio Cadwraeth a Choedwigaeth ac a oedd wedi bod yn ddigartref ac yn gaeth i sylweddau ddiddordeb arbennig mewn dilyn gyrfa ym maes amaeth-goedwigaeth. Roedd y myfyriwr yn meddwl bod ei brofiad gwaith cyfyngedig ar y cyd â’i anabledd, gorbryder ac iselder yn rhwystr i’w lwyddiant yn y dyfodol. Trwy ei ymgysylltiad â’r Gwasanaeth Anabledd, dysgodd am y cyfleoedd posibl a oedd ar gael trwy GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr, felly trefnodd gwrdd â’r Ymgynghorydd Cymorth Profiad Gwaith i drafod ei sefyllfa bresennol, y rhwystrau yr oedd yn eu hwynebu, a sut orau y gallai’r tîm ei gefnogi.
Darllen mwy...Yn dilyn trafodaeth 1-i-1, fe greodd yr ymgynghorydd gynllun gweithredu ar gyfer y myfyriwr, a oedd yn nodi’r cymorth a oedd ar gael gan y gwasanaeth cyflogadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys ymgyfarwyddo ag adnoddau presennol, datblygu CV ac opsiynau profiad gwaith. Roedd y myfyriwr yn pryderu nad oedd ganddo’r profiad ymarferol a’r cymwysterau yr oedd eu hangen i sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth arbenigol yn y sector. Gyda’i gilydd, adnabu’r myfyriwr a’r ymgynghorydd mai cymhwyster llif gadwyn oedd yr opsiwn gorau i helpu i wella ei sgiliau arbenigol a gwella ei gyflogadwyedd.
Fe drefnodd y tîm le i’r myfyriwr ar gwrs argymelledig gyda Phil Dunford Chainsaw Training, a gynhaliwyd yn lleol i gyfeiriad cartref y myfyriwr. Fe wnaeth y tîm ddileu’r rhwystrau ariannol ar gyfer y myfyriwr trwy gyllido cost y cymhwyster a gwneud taliad uniongyrchol i ddarparwr y cwrs.
Ers gwneud y cwrs, mae’r myfyriwr wedi llwyddo i sicrhau gwaith yn y diwydiant coedwigaeth yn ei leoliad yn ystod y tymor a’i leoliad cartref. Fe wnaeth y cwrs ei gyflwyno i gysylltiadau yn y diwydiant hefyd ac mae wedi ailgynnau ei frwdfrydedd dros ei gwrs gradd.
“Roeddwn i’n teimlo wedi fy natgysylltu oddi wrth fy maes astudio. A minnau wedi ennill y cymhwyster ychwanegol hwn yn fy niwydiant rwy’n teimlo’n gryfach fy nghymhelliant nag erioed i ragori yn fy astudiaethau academaidd”.
Lis Owen, Rheolwr Cymorth Profiad Gwaith, sy’n egluro’r gwahaniaeth y mae’r bwrsariaethau’n ei wneud i fywydau myfyrwyr: “Roedd hi’n wych gallu cynnig y cyfle hwn i’r myfyriwr. Mae’n dangos yr effaith sylweddol y mae’r cymorth hwn trwy’r fwrsariaeth wedi’i chael ar ei hunan-fri, ei gymhelliant a’i gyfleoedd cyflogaeth. Mae’r hyfforddiant wedi agor drysau i waith cyflogedig a’r profiad gwaith mwy arbenigol yr oedd yn chwilio amdano.”
“Rwyf wedi cael fy ngorlethu gan rai colledion arwyddocaol iawn yn fy mywyd dros y 18 mis diwethaf ac roeddwn wedi dechrau anobeithio am fy nyfodol. Roeddwn yn gwybod y byddai cael mwy o brofiad yn rhoi’r hwb yr oedd ei angen arnaf i gael yr hyder i wneud fy ngwaith eto.”
Cyn hyn roeddwn wedi meddwl y byddwn yn gweithio i’r cyrff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer coedwigaeth (CNC, Y Comisiwn Coedwigaeth) neu gwmni rheoli preifat. Yn awr mae gennyf y penderfyniad i archwilio’r posibilrwydd o ddechrau fy musnes fy hun.
Myfyrwraig Saesneg Iaith ac Athroniaeth ar ei blwyddyn olaf oedd Katherine a hithau’n ei hystyried ei hun yn anabl pan ymgysylltodd â thîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr (sydd wedi’i frandio fel Hyder o ran Gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd) i drafod ei hanghenion o ran cymorth cyflogadwyedd. Mae Katherine hefyd yn gofalu am aelod o’i theulu ac roedd hi’n cael hyn, ar y cyd â’i hanabledd, yn rhwystr wrth ystyried profiad gwaith.
Darllen mwy...I gyrraedd ei nod, sef cael profiad ysgrifennu proffesiynol, fe lwyddodd y Swyddog Prosiect o’r tîm Hyder o ran Gyrfa i sicrhau lleoliad â thâl i Katherine gyda Promo Cymru i ysgrifennu cynnwys ar gyfer ei wefan blogio, “The Sprout”. Cyn i’r lleoliad ddechrau fe drefnodd y tîm fod Katherine yn cwrdd â Promo Cymru i drafod gofynion y rôl a chadarnhau disgwyliadau’r ddau barti. Fe wnaeth hyn alluogi Katherine i nodi ei hamcanion ar gyfer y lleoliad gwaith ac roedd yn gyfle i ddatgelu ei chyfrifoldebau gofalu a’i hanabledd, a chytuno ar unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen, a oedd yn cynnwys oriau gwaith hyblyg a gweithio gartref.
Wrth i’r lleoliad ddechrau fe gysylltodd y Swyddog Prosiect Hyder o ran Gyrfa â myfyriwr GO Wales blaenorol a oedd yn cael ei gyflogi’n llawn-amser yn Promo Cymru, i weithio gyda Katherine yn ystod ei lleoliad, gan wasanaethu fel mentor iddi.
“Roedd Katherine yn hyderus ac yn gyfforddus yn siarad gyda’r tîm, gan gyflwyno ei syniadau mewn modd eglur ac effeithiol. Daeth â syniadau gwreiddiol i’r tîm, roedd hi’n broffesiynol ac yn hyderus o ran ei hagwedd at waith ac fe gynhyrchodd gynnwys da. Byddem yn hapus i’w chroesawu’n ôl yn y dyfodol” Andrew Collins, Ymgynghorydd Cyfathrebu Digidol, Promo Cymru.
Cafodd Katherine ei hannog i fynychu cyfleoedd rhwydweithio niferus a oedd yn cynnwys digwyddiad cyhoeddi dan arweiniad cyflogwyr a digwyddiad “Grŵp Blaenoriaeth” yn ystod amser cinio a drefnwyd gan y brifysgol. Fe helpodd y rhain i gynyddu ei gwybodaeth am y diwydiant a’r broses recriwtio yn ogystal â rhoi’r cyfle i Katherine ymgysylltu â myfyrwyr o gefndir tebyg iddi hi.
Tuag at ddiwedd ei lleoliad, roedd gwelliant amlwg yn hyder Katherine a’i hawydd i roi cynnig ar bethau newydd, felly fe wnaeth y Swyddog Prosiect ei hannog i roi cyflwyniad mewn digwyddiad Hyder o ran Gyrfa i fyfyrwyr anabl i rannu ei phrofiad. Rhoddodd Katherine gyflwyniad llwyddiannus yn y digwyddiad, sy’n dangos effaith y cymorth a gafodd ar ddatblygiad ei hyder a sgiliau cyflogadwyedd.
"Byddwn i’n argymell y rhaglen yn fawr i unrhyw un, yn enwedig y rhai sydd yn eu blwyddyn olaf ac yn poeni am adael y brifysgol heb unrhyw brofiad. Fe lwyddais i ymgodymu â gwaith ac astudio heb i hynny effeithio’n ormodol ar fy ngraddau ac mae wedi rhoi mwy i mi nag y gallai astudio yn unig ei wneud”.
"Roeddwn yn ymwybodol iawn mai ofer fyddai gadael y brifysgol a cheisio cael unrhyw fath o swydd ysgrifennu heb o leiaf rywfaint o brofiad mewn amgylchedd proffesiynol.”
Heb Hyder o ran Gyrfa ni fyddwn wedi meddwl chwilio am gyfle fel yr un a gefais a byddwn i wedi bod hyd yn oed yn llai hyderus y byddwn yn ei gael!
Fe wnaeth Naajib, myfyriwr Chwaraeon a Gwyddor Iechyd o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol a oedd yn byw mewn ardal â chyfran isel o bobl ifanc yn cyfranogi mewn addysg uwch, ymgysylltu â’r tîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr (sydd wedi’i frandio fel Ehangu Llwyddiant ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd) mewn ffair swyddi rhan-amser. Mynegodd Naajib ei ddyhead i gael profiad gwaith a oedd yn berthnasol i yrfa gan ei fod yn teimlo bod ganddo ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth am y cyfleoedd swyddi ar lefel raddedig yn y sector chwaraeon.
Darllen mwy...Yn wreiddiol, dechreuodd y tîm trwy helpu Naajib i adnabod y profiad a’r sgiliau yr oedd eisoes wedi’u cael, a sut y gallai’r rhain gael eu teilwra a’u cymhwyso i wahanol amgylcheddau gwaith. Bu’r ymgynghorydd yn ei goetsio gan roi cymorth mewn sawl maes, gan gynnwys ymchwil fanwl i opsiynau gyrfa posibl a oedd yn gysylltiedig â chwaraeon, datblygu CV, rhwydweithio â’r diwydiant a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
O ystyried bod profiad gwaith yn flaenoriaeth benodol i Naajib, fe ganolbwyntiodd yr Hyfforddwr Gyrfaoedd ar sicrhau cyfleoedd yn y meysydd a oedd o ddiddordeb arbennig i Naajib, sef chwaraeon elitaidd ac iechyd y cyhoedd. Fe wnaethant adnabod yr elusen leol ‘Elderfit’, a oedd yn darparu dosbarthiadau ymarfer corff wedi’u teilwra i bobl oedrannus, fel opsiwn addas. Fe wnaeth yr ymgynghorydd gynorthwyo Naajib gyda’r cais, ac wedi iddo lwyddo i sicrhau’r swydd, dechreuodd gysgodi’r dosbarthiadau ymarfer corff, gan fynd ymlaen wedyn i ddarparu sesiynau cynhesu’n annibynnol.
“Mae Naajib wedi bod yn gwirfoddoli gyda ni am y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi bod o fudd enfawr i ni fel sefydliad, gan ymgysylltu â’n cyfranogwyr, a chynnig cyngor ychwanegol ynghylch materion cryfder a chyflyru mwy penodol. Mae wedi bod yn fraint ei gael yn bresennol.”
Gan ddefnyddio’r sgiliau chwilio am swyddi yr oedd newydd eu hennill, adnabu Naajib leoliad cryfder, cyflyru, adsefydlu a thylino gyda Rygbi’r Dreigiau. Treuliodd y tîm Ehangu Llwyddiant amser yn cynghori ac yn cynorthwyo Naajib gyda’r cais yn ogystal ag ymarfer ar gyfer y cyfweliad. Yn dilyn proses gystadleuol, llwyddodd Naajib i sicrhau un o ddim ond dau le.
Gyda chymorth y tîm Ehangu Llwyddiant, mae gan Naajib hyder newydd mewn cymhwyso’i sgiliau a chysylltu â’r diwydiant chwaraeon: “Fe helpodd y cyfarfodydd hyn fi i gael profiad gwaith yn Elderfit a sicrhau lleoliad gydag Academi Dreigiau Casnewydd. Rwy’n teimlo’n llawer mwy clir yn awr o ran cyfeiriadau fy ngyrfa a sut i gyrraedd yno. Byddai’r cyfarfodydd hyn yn berffaith i unrhyw un. Byddwn yn eu hargymell yn fawr”.
Mae ymgysylltu â sesiynau coetsio gyrfaoedd y tîm Ehangu Llwyddiant wedi cynyddu fy hyder i sicrhau profiad a lleoliad gwaith.
Yn ystod y cyfarfodydd hyn, rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn chwilio am swyddi trwy wybod ble i chwilio am swyddi.
Fe wnaeth myfyrwraig niwrowahanol a oedd yn astudio Astudiaethau Rhyngwladol ymgysylltu â thîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr ar ôl dysgu am y cymorth a oedd ar gael. Mae gan Emily ddyscalcwlia; cyflwr sy’n effeithio ar ei gallu i ddeall rhifau a gweithio gyda hwy. Cafodd effaith ddofn ar ei phrofiad o’r ysgol, a arweiniodd at ei phenderfyniad i astudio o bell trwy’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Roedd Emily yn teimlo bod ei dyscalwlia, ynghyd â byw mewn ardal wledig, yn rhwystr i fynediad at gyfleoedd cyflogaeth.
Darllen mwy...Fe wnaeth sgyrsiau cychwynnol gydag Ymgynghorydd Cyflogadwyedd y Brifysgol Agored yng Nghymru helpu Emily i adnabod ei hanghenion o ran cymorth, ac adnabod ei chryfderau a sgiliau trosglwyddadwy y gallai eu dwyn i’r gweithle. Trwy gyfres o drafodaethau, fe wnaeth yr Ymgynghorydd ac Emily ganolbwyntio eu hamcanion ar gael mwy o ddealltwriaeth am y diwydiant datblygu rhyngwladol a mwy o brofiad ohono, yn ogystal â mewnwelediad pellach i opsiynau gyrfa y gallai fod ar Emily eisiau eu dilyn. Fe geisiodd wella ei hunanhyder, ei hannibyniaeth a’i sgiliau rheoli amser hefyd.
Er gwaethaf ofn Emily y byddai byw mewn ardal wledig yn rhwystr i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith mewn sector arbenigol, fe wnaeth yr Ymgynghorydd Cyflogadwyedd sicrhau lleoliad gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yng Nghaerdydd. Fe wnaeth tîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr dalu costau teithio a chynhaliaeth Emily, fel bod y profiad gwaith yn fforddiadwy. Darparodd y lleoliad gyfleoedd rhwydweithio a phrofiad amhrisiadwy yn y diwydiant, a phenllanw hynny oedd bod Emily wedi ysgrifennu adroddiadau ac erthyglau a oedd yn ymwneud â digwyddiadau a materion datblygu rhyngwladol.
Yn ogystal â’r profiad gwaith, fe fynychodd Emily nifer o ddigwyddiadau a gweithdai cyflogadwyedd dan arweiniad y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar strategaethau chwilio am swyddi a darganfod a chyrraedd eich nodau, a wnaeth ei helpu i sicrhau swydd ran-amser gyda sefydliad profiadau awyr agored gan roi cymorth marchnata. Daeth ei thaith gyda GO Wales i ben pan roddodd Emily gyflwyniad i Fwrdd Prosiect y Brifysgol Agored yng Nghymru i rannu ei phrofiadau o gyfranogi yn y rhaglen. Rhoddodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ystyriaeth i’r adborth yma wrth gynllunio darpariaeth yn y dyfodol.
Ar ôl graddio, derbyniodd Emily swydd barhaol gyda’r sefydliad profiad gwaith awyr agored, gan weithio 30 awr yr wythnos. Parhaodd i ymgysylltu â gwasanaeth gyrfaoedd prif ffrwd y Brifysgol Agored yng Nghymru i ddal i adeiladu ar ei llwyddiant, ehangu’r rhwydweithiau yr oedd wedi’u sefydlu, a symud ar hyd ei llwybr gyrfa yn y dyfodol.
“Mae’r rhaglen cyflogadwyedd newydd wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i adnabod ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf wella arnynt, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous. Mae Ros wedi bod yn allweddol ac yn anhygoel o gefnogol yn y broses honno, ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr help y mae wedi’i roi i mi. Byddwn yn sicr yn argymell y rhaglen cyflogadwyedd wrth unrhyw un sy’n amcanu at hunanwella neu ddechrau/newid gyrfa”. Emily, Myfyrwraig y Brifysgol Agored yng Nghymru.
“Rhoddodd Emily gymorth gwych i’n ... tîm cyfathrebu allanol... Fe ddysgodd sgiliau gwerthfawr i greu a golygu cynnwys yn hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang a materion byd-eang, ac fe gafodd WCIA fudd o’i chefndir mewn astudiaethau rhyngwladol a safbwynt newydd ffres”. Rheolwr y Rhaglen Wirfoddoli, WCIA
Mae WCIA yn ddiolchgar iawn bod Emily wedi penderfynu gwirfoddoli ... ac roeddem yn gwerthfawrogi ei mewnbwn creadigol, ei gwybodaeth a'i brwdfrydedd.” Rheolwr y Rhaglen Wirfoddoli, WCIA
Fe gofrestrodd myfyriwr Osteopatheg hŷn i gael cymorth gyda GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr (sydd wedi’i frandio fel Hwb Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Abertawe) ar ôl clywed am y cyfleoedd posibl trwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe. Roedd gan y myfyriwr gyfrifoldebau gofalu ac roeddent o gefndir incwm isel, ac yn ofni bod y rhain yn rhwystrau i gyrraedd eu nod gyrfaol, sef rhedeg eu busnes osteopatheg eu hunain. Hefyd, gan mai hwy oedd y cyntaf yn eu teulu i fynd i’r brifysgol, bu’r tîm yn gefn iddynt ymhlith proffil demograffig iau myfyrwyr y cwrs.
Darllen mwy...Fe wnaeth y tîm Hwb Gyrfaoedd adnabod nifer o feysydd ar gyfer datblygu, a oedd yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio proffesiynol, mentora a chyngor ynghylch dechrau busnes i ymdrin â diffyg hyder a chymhelliant y myfyriwr wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu blwyddyn astudio gyntaf. Roeddent hefyd yn teimlo wedi dadrithio ac yn amharod ar gyfer realiti rhedeg busnes
Chwiliodd y tîm Hwb Gyrfaoedd am fusnesau osteopatheg lleol y gallai’r myfyriwr greu cysylltiadau proffesiynol drwyddynt i’w helpu i wella eu hyder a chanolbwyntio ar gyfeiriad eu gyrfa. Cytunodd perchennog clinig Osteopatheg lleol i weithredu fel mentor ac fe gynigiodd gyfle cysgodi gwaith i’r myfyriwr, a fyddai’n eu galluogi i arsylwi ar fwy o amrywiaeth o achosion cleifion a chynlluniau triniaeth y tu hwnt i amgylchedd y brifysgol.
Fe wnaeth y tîm annog y myfyriwr i fod yn bresennol mewn sgwrs cyflogadwyedd dan arweiniad y brifysgol ar ‘Wireddu Eich Potensial’ ac fe’u cyfeiriodd at y Cwrs Datblygu Gyrfa a oedd yn canolbwyntio ar wahanol elfennau cyflogaeth gan gynnwys paratoi cynllun gweithredu ar gyfer gyrfa, datblygu CV a dechrau busnes. Hefyd, derbyniwyd y myfyriwr ar ddigwyddiad hyfforddi’r tîm menter ‘Hybu Eich Syniad’ lle gwnaethant werthu eu syniad busnes a manylion eu hachos busnes yn llwyddiannus i’r grŵp, gan arwain at gael cynnig cyllid dechrau busnes.
Cadarnhaodd adborth y myfyriwr yn yr apwyntiad dilynol fod y myfyriwr yn teimlo’n gryfach eu cymhelliant ac yn fwy hyderus, a bod ganddynt weledigaeth eglur ar gyfer eu dyfodol. Roedd cysgodi gwaith wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr a realistig i’r sgiliau a’r ymdrech sy’n ofynnol i sefydlu a chynnal busnes osteopatheg, ac roedd ymgysylltu â Hwb Gyrfaoedd wedi helpu i ddatblygu rhwydweithiau allanol gydag osteopathiaid ledled y rhanbarth, a ddarparodd sylfaen ardderchog yn barod ar gyfer graddio. Mae cymorth y tîm, trwy arweiniad strwythuredig a bod yn gefn iddynt, wedi eu helpu i symud ar hyd y llwybr tuag at sefydlu busnes newydd.
Roeddwn yn teimlo’n ansicr iawn ynghylch fy siawns o sicrhau cyflogaeth. Byddaf yn ceisio sefydlu fy hun yn yr ardal leol, mewn marchnad orlawn, felly roeddwn yn teimlo bod arnaf angen mantais ychwanegol i achub y blaen ar fy nghystadleuwyr, ac fe greoedd Hwb Gyrfaoedd gyfleoedd i mi a wnaeth union hynny.
Roedd cyfarfodydd gyda’r ymgynghorydd gyrfaoedd yn amser gwerthfawr i siarad, cael persbectif a gofyn cwestiynau mewn awyrgylch hamddenol a oedd yn ennyn fy niddordeb. Maent yn groesawgar iawn, nid ydynt yn barnu ac maent yn wirioneddol hapus i helpu myfyrwyr i gyflawni’r gorau y gallant.
Fe wnaeth tîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr PDC (sydd wedi’i frandio fel Gyrfaoedd a Mwy) gynnal digwyddiad a oedd wedi’i fwriadu i gynorthwyo cyflogwyr i gael dealltwriaeth well am anghenion myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol o ran cael mynediad at gyflogaeth. Bu’r tîm yn cydweithio gyda’i thimau cyn-fyfyrwyr, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) a Gyrfaoedd. Roedd PDC yn cydnabod bod gan brifysgolion rôl bwysig o ran hyrwyddo manteision gweithlu amrywiol a chynhwysol i gyflogwyr, i sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus ac wedi’u harfogi i gynnig cyfleoedd profiad gwaith a chyflogaeth o ansawdd i’r holl fyfyrwyr a graddedigion, ni waeth beth fo’u cefndir.
Darllen mwy...Denodd y digwyddiad 100 o gynrychiolwyr o fwy na 65 o sefydliadau o amryw sectorau, gan roi cyfle i sefydliadau rwydweithio a rhannu arbenigedd ac arfer gorau. Fe wnaeth trafodaeth panel y digwyddiad wahodd ystod o siaradwyr, gan gynnwys cyflogwyr a myfyrwyr, i ystyried eu profiadau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle, gan ganolbwyntio’n arbennig ar anghenion myfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Darparodd hyn lwyfan i ymgysylltu â chyfranogwyr, a esgorodd ar drafodaeth a wnaeth ysgogi meddwl. Rhoddodd yr areithiwr cyweirnod Sanji Vedi, Dirprwy Gyfarwyddwr yn Llywodraeth Cymru, fewnwelediad defnyddiol i’w brofiad personol ef o gydraddoldeb, amrywiaeth a chroestoriadedd, a wnaeth hybu trafodaeth bellach ynglŷn â sut i wella arfer.
Bu’r digwyddiad hefyd o gymorth i gryfhau cysylltiadau â chyflogwyr, gan bod staff PDC wedi ymgysylltu â sefydliadau a oedd yn awyddus i gefnogi myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol, yn ogystal ag adnabod partneriaethau newydd posibl. Un o’r datblygiadau cyffrous sydd wedi deillio yw'r gobaith o greu rhwydwaith amrywiaeth newydd ar gyfer cyflogwyr ymhlith BBChau.
Dangosodd y digwyddiad sut y mae sefydliadau’n dyheu am ddatblygu dealltwriaeth well am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y gweithle, ac fe wnaeth alluogi’r tîm Gyrfaoedd a Mwy i ymgysylltu â’r cyflogwyr hyn a datblygu cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr.
Yn dilyn adborth cadarnhaol ar y digwyddiad hwn, mae’r brifysgol yn archwilio’r potensial ar gyfer rhedeg digwyddiad tebyg wedi’i dargedu at Fusnesau Bach a Chanolig (BBCh), gyda’r gobaith y gallai gael effaith gadarnhaol ar arferion y sefydliadau llai hyn. Maent hefyd yn ystyried dull trawsgydweithredol rhwng prifysgolion Cymru, a fyddai’n tynnu ar brofiadau o ranbarthau lleol ac yn gwella cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch a sefydliadau sy’n gweithio’n lleol.
Roedd hi’n wych rhwydweithio gyda sefydliadau eraill a chael mewnwelediadau diddorol. Gobeithio y bydd cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer dysgu rhwng cymheiriaid trwy fwy o weithgareddau ar ffurf gweithdai ac astudiaethau achos gan sefydliadau sydd wir yn arwain y ffordd.
Fe wnaeth myfyrwraig a oedd yn astudio Crefft Dylunio ac yn ei hystyried ei hun yn anabl ymgysylltu â thîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr yn y gobaith o gael profiad gwaith perthnasol, a chyfle i ddarganfod mwy am hunangyflogaeth.
Cam cyntaf y tîm oedd canfod anghenion cyflogadwyedd Hannah trwy gyfres o drafodaethau cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau chwilio am swyddi, paratoi ar gyfer cyfweliad a deall gofynion a disgwyliadau yn y gweithle.
Darllen mwy...Dangosodd Hannah ddiddordeb mewn dod yn Athrawes y Celfyddydau, neu weithio ym maes Therapi Celfyddydau, ond fe gyfrannodd ansicrwydd ynghylch cyfeiriad ei gyrfa at ddiffyg hyder i ganlyn yr opsiynau hyn. Fe wnaeth tîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr ariannu cais Hannah am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a fyddai’n ei gwneud yn haws iddi archwilio cyfleoedd profiad gwaith yn y sector addysg.
Fe sicrhaodd Hannah brofiad gwaith gyda rhaglen Celf Liw Nos Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS), sy’n rhedeg ystod o weithdai creadigol yn y Celfyddydau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer dechreuwyr. Bu Hannah yn cysgodi’r tîm addysgu yn y gweithdy cerameg a bu’n cynorthwyo myfyrwyr yn y dosbarth i ddatblygu eu technegau modelu clai. O ganlyniad i lwyddiant y profiad gwaith cychwynnol hwn, cynigiodd staff Celf Liw Nos y cyfle i Hannah redeg un o’r gweithdai cerameg dan oruchwyliaeth. Fe wnaeth hyn ei galluogi i roi popeth yr oedd wedi’i ddysgu wrth astudio ar gyfer ei gradd ar waith, ac fe helpodd i wella ei hyder yn ei sgiliau addysgu.
Yn dilyn y lleoliad llwyddiannus hwn, cafodd Hannah gontract dros dro gyda’r tîm Celf Liw Nos i ddarparu gweithdai allgymorth ar gyfer myfyrwyr. Rhoddodd y profiad hwn amgylchedd diogel a chefnogol iddi lle gallai baratoi ar gyfer y gweithle, cael profiad uniongyrchol o ofynion gwaith, ac arsylwi ar ymddygiad a safonau proffesiynol disgwyliedig. Dangosodd Hannah fwy o hyder, ac mae’n parhau i archwilio gwahanol ddiddordebau ac opsiynau gwaith. Trwy ei phrofiad gwaith, mae hi hefyd yn datblygu rhwydwaith yn y diwydiant, sydd o’r pwys mwyaf i gael llwyddiant yn y sector creadigol.
Mae Hannah wedi bod yn wych! Ers ei lleoliad profiad gwaith ar Celf Liw Nos mae wedi ymuno â’n tîm allgymorth ac mae bellach yn cael ei chyflogi ar gontract dros dro i gefnogi a darparu gweithdai allgymorth.
Mae hyder Hannah wedi tyfu go iawn, ac mae hi’n arwain sesiynau gydag ysgol leol. Rydym wrth ein bodd gyda’r gefnogaeth gan dîm y prosiect ac rydym wir yn ei gwerthfawrogi. Amanda Roberts, Uwch Swyddog Addysg, Coleg Celf Abertawe, PCDDS
Myfyrwraig Therapi Galwedigaethol niwrowahanol ar ei hail flwyddyn a oedd yn uniaethu fel rhywun LHDTC+ oedd Jo pan ddechreuodd ei thaith gymorth ar ôl bod mewn sesiwn weithdy Cyfeiriwr Cyflogadwyedd a gafodd ei rhedeg gan y tîm GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr. A hithau wedi profi cyflwr meddygol a fu’n fygythiad i’w bywyd, roedd Jo yn teimlo bod nifer o rwystrau i gyrraedd ei nod gyrfaol, sef dod yn therapydd galwedigaethol.
Darllen mwy...Dechreuodd y tîm trwy roi cymorth pwrpasol i helpu Jo i oresgyn nifer o heriau beunyddiol, gan geisio codi hyder yn ei sgiliau a chyfleoedd cyflogadwyedd. Cafodd Jo fynediad at gymorth dros gyfnod o 6 mis a thrwy amrywiaeth o gymorth wyneb-yn-wyneb a rhithwir, fe helpodd y tîm Jo i gael dealltwriaeth fanylach am sut y gallai hi arbenigo ym maes presgripsiynu cymdeithasol o fewn ei dewis broffesiwn. Fe wnaeth hi hefyd ddynodi ei diddordeb mewn cefnogi unigolion sy’n profi digartrefedd. Trwy ystyriaeth ac arweiniad gofalus, daeth y tîm o hyd i leoliad profiad gwaith am bedair wythnos gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol Community Wellness Company yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Yn dilyn lleoliad cadarnhaol, fe barhaodd y tîm i weithio gyda Jo ar wella ei chyflogadwyedd ymhellach trwy adnabod ffyrdd y gallai ddatblygu ei sgiliau dros gyfnod yr haf trwy gael mynediad at hyfforddiant proffesiynol. Roedd yr Ysgoloriaeth Dileu Rhwystrau’n gyfle i sicrhau cyllid i fynychu cyrsiau achrededig mewn Cymorth Cyntaf Awyr Agored, Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith, a Hyfforddiant Achubwr Bywydau Dyfroedd Agored. Byddai’r cymwysterau hyn yn rhoi Jo mewn sefyllfa well i sicrhau cyflogaeth arbenigol yn cynorthwyo unigolion sy’n ceisio dulliau presgripsiynu cymdeithasol ym maes therapi galwedigaethol.
Fe sicrhaodd Jo fwrsariaeth hefyd i fynychu cwrs Cymraeg lefel uwch. Roedd Jo yn credu y byddai gwella ei sgiliau Cymraeg yn ei rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i sicrhau gwaith yng Nghymru mewn sector lle mae galw am gyflogeion sy’n gallu darparu gwasanaethau y mae eu dirfawr angen trwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fyddai’r cyrsiau hyn wedi bod yn hyfyw yn ariannol i Jo heb gymorth y fwrsariaeth.
“Heb gymorth yr ysgoloriaeth hon, ni fyddwn i’n gallu fforddio’r hyfforddiant arbenigol hwn, sydd yn fy marn i’n ychwanegiad gwerthfawr at fy sgiliau ac a fyddai’n rhywbeth hynod ddymunol, gan helpu i’m gwahaniaethu yn y farchnad gyflogaeth gyfredol”.
Mae profiad Jo o GO Wales wedi arwain at fwy o hyder wrth fynd i’r afael â chyflogaeth, a chyda chymorth mae hi wedi ymgeisio am rôl wirfoddol bellach gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol Community Wellness Company.
Diolch o galon am yr adborth cadarnhaol – rwy’n ei werthfawrogi’n fawr. Honno’n llythrennol yw’r ffurflen gyntaf yr wyf wedi’i llenwi heb fewnbwn mam mewn amser hir iawn. Fe’m gwnaeth yn ‘weddol’ emosiynol!
Rwy’n hyderus bod gennyf strategaeth ar gyfer goresgyn rhwystrau penodol i'm cyflogaeth